Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Pwyllgor sefydlog sy’n un o ofynion Dogfen Fframwaith Llywodraeth Cymru gydag Amgueddfa Cymru yw’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a chefnogi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol / Swyddog Cyfrifyddu ar faterion risg, stiwardiaeth ac atebolrwydd ariannol, rheolaeth a llywodraethu mewnol.
Hywel John yw Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd.
Bydd y Pwyllgor yn rhoi sicrwydd ynghylch sefydlu a chynnal amgylchedd rheoli effeithiol er mwyn sicrhau uniondeb, cynaliadwyedd a pharhad o ran cyllid a’r busnes ehangach. Bydd yn monitro prosesau rheoli risg Bwrdd Amgueddfa Cymru i sicrhau eu bod yn effeithiol wrth ddarogan risgiau’r dyfodol yn ogystal â mynd i’r afael â’r rhai presennol, a bod y mesurau lliniaru risg yn gyson â pharodrwydd Bwrdd Amgueddfa Cymru i dderbyn risg.
Bydd y Pwyllgor yn darparu Adroddiad Blynyddol i’r Bwrdd a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol/Swyddog Cyfrifyddu yn crynhoi’r busnes y mae wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn a’r casgliadau y mae wedi’u tynnu. Bydd hyn hefyd yn llywio’r gwaith o lunio Datganiad Llywodraethu’r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu.
Bydd y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd yn cynghori’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cyfrifyddu a’r Bwrdd ynglŷn â’r canlynol:
Fel arfer bydd y Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter ac yn trefnu’r cyfarfodydd drwy’r Rheolwr Llywodraethu Corfforaethol ar ddyddiadau sy’n briodol ar gyfer cynnal yr adolygiad o’r rhaglenni gwaith archwilio mewnol ac allanol. Gelwir rhagor o gyfarfodydd os bydd eu hangen.
Bydd y Llywydd, yr Is-lywydd a’r Trysorydd, a hyd at bedwar aelod arall o blith yr Ymddiriedolwyr yn aelodau o’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd.
Y rhai eraill a fydd yn bresennol yw’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Prif Swyddog Gweithredu, y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, y Cyfarwyddwr Profiad Ymwelwyr, y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, y Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus a’r Rheolwr Llywodraethu Corfforaethol.