Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd yw’r Pwyllgor Cynllunio, Perfformiad ac Adnoddau. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a sicrhau bod gofalaeth a rheolaethau ariannol yr Amgueddfa yn cael eu harfer yn unol â pholisi’r Amgueddfa fel y mae wedi’i sefydlu gan y Bwrdd a hynny yn unol â’r codau a’r safonau ymarfer a bennir gan Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru a chan gyrff proffesiynol.
Dr Carol Bell yw Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, Perfformiad ac Adnoddau.
Mewn cydweithrediad â’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd, adolygu’r broses o baratoi’r Cyfrifon Blynyddol a sicrhau eu bod wedi’u harchwilio’n briodol gan archwilwyr allanol yr Amgueddfa, yn unol â pharagraff 23.3 o’r Rheoliadau.
Bydd y Pwyllgor yn cwrdd yn chwarterol ac yn trefnu’r cyfarfodydd drwy’r Rheolwr Llywodraethu Corfforaethol ar ddyddiadau sy’n briodol ar gyfer cynnal adolygiadau cynllunio, perfformiad ac adnoddau chwarterol. Cynhelir cyfarfodydd pellach os bydd angen.
Bydd y Llywydd, y Dirprwy Lywydd a’r Trysorydd, a phob Ymddiriedolwr yn aelodau’r Pwyllgor Cynllunio, Perfformiad ac Adnoddau.
Mae mynychwyr eraill yn cynnwys y Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Prif Swyddog Gweithredu, y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, y Cyfarwyddwr Profiad Ymwelwyr, y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, y Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglennu Cyhoeddus, a’r Rheolwr Llywodraethu Corfforaethol.