Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Pwyllgor sefydlog sy’n ystyried materion yn ymwneud â rheoli pobl, gwobrwyo, datblygiadau strategol y sefydliad a newid trefniadol ar ran Bwrdd Amgueddfa Cymru yw’r Pwyllgor Penodiadau a Chydnabyddiaeth Ariannol.
Rachel Hughes yw Cadeirydd y Pwyllgor Penodiadau a Chydnabyddiaeth Ariannol.
Y Pwyllgor Penodiadau a Chydnabyddiaeth Ariannol sy’n goruchwylio’r broses o benodi:
Mae gan y Pwyllgor Penodiadau a Chydnabyddiaeth Ariannol y cyfrifoldebau canlynol:
Bydd y Pwyllgor yn cwrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn, a phryd bynnag y bydd angen er mwyn sicrhau y gellir hysbysebu unrhyw swyddi gwag ar gyfer Ymddiriedolwyr, cynghorwyr allanol neu’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn briodol a’u llenwi mewn dull amserol. Bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu drwy’r Rheolwr Llywodraethu Corfforaethol.
Bydd y Llywydd, y Dirprwy Lywydd a’r Trysorydd, a hyd at dri Ymddiriedolwr arall yn aelodau’r Pwyllgor Penodiadau a Chydnabyddiaeth Ariannol, ac yn cael eu penodi gan y Bwrdd.
Fel arfer, bydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor hwn. Gall y Pwyllgor wahodd swyddogion, unigolion neu gynrychiolwyr eraill o sefydliadau eraill i fynychu cyfarfodydd llawn neu ran o’i gyfarfodydd.