Gwirfoddoli Unigol


Cyfleon Cyfredol

Gwirfoddolwyr Gŵyl Fwyd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Dyddiad cau: 11 Awst 2024

Pwrpas y rôl: Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i roi help llaw yn ein Gŵyl Fwyd flynyddol yn Sain Ffagan ar 7 a/neu 8 Medi.

Sut i Gymryd Rhan?

  1. Cofiwch ddarllen y Disgrifiad Rôl i wneud yn siŵr mai dyma'r rôl gywir i chi. Cofiwch ystyried yr ymrwymiad amser ac unrhyw ystyriaethau eraill rydyn ni wedi'u cynnwys.
  2. Llenwch Ffurflen Gofrestru a'i dychwelyd at gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy'r post at Adran Gwirfoddoli, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd CF5 6XB.       
    Rydyn ni'n derbyn ceisiadau dros y ffôn hefyd, neu drwy fideo neu glip sain byr. Ffoniwch (029) 2057 3002 am ragor o wybodaeth.
  3. Os cewch chi eich dewis ar gyfer y rôl, byddwn ni’n cysylltu dros e-bost. Efallai y cewch eich gwahodd i gyfarfod anffurfiol neu ddiwrnod agored grŵp. 
    Allwn ni ddim gwarantu lle, ond rydyn ni'n sicrhau bod pob cais yn cael ei drin yn deg a bod pob un yn cael ei gyflwyno i oruchwyliwr y rôl i'w ystyried.


 

Lawrlwytho'r Ffurflen Gofrestru (PDF)