System Maes Parcio Adnabod Rhif Cofrestru'n Awtomatig (ANPR) Newydd - Cwestiynau Cyffredin

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Pryd fydd hyn yn digwydd?

Bydd arwyddion yn cael eu harddangos o ddydd Mawrth 14 Ebrill, gyda'r system yn fyw o ddydd Mawrth 21 Ebrill.

Beth mae'r newid hwn yn ei olygu ar gyfer fy Nhocyn Tymor yn Sain Ffagan?

  • Ni fydd yn ofynnol i chi ddefnyddio neu arddangos eich tocyn corfforol yn eich cerbyd cofrestredig mwyach. Ni fydd tocynnau papur/sticeri yn ddilys mwyach, ac ni fyddwch yn cael unrhyw docynnau papur/sticeri newydd yn y dyfodol.
  • Byddwn yn uwchlwytho rhif cofrestru'r cerbyd a nodwyd gennych ar gyfer eich tocyn tymor yn y system, a bydd y camerâu yn adnabod rhif eich cerbyd ac yn gwybod eich bod eisoes wedi talu am barcio.
  • Yn unol ag amodau a thelerau'r tocyn tymor, mae hyn yn cwmpasu 1 cerbyd cofrestredig am 12 mis o'r dyddiad prynu.
  • Gallwch yrru i mewn i'r safle a pharcio fel arfer, a bydd ein system yn gwneud y gweddill.

Ail Docyn Tymor – Cynnig Arbennig am gyfnod Penodol

Os oes gennych Docyn Tymor yn barod, gallwch fanteisio ar gynnig arbennig i brynu Tocyn Tymor ar gyfer ail gerbyd am hanner pris. ⁠ Cost yr ail docyn tymor felly fydd £22.50.

Dyma amodau a thelerau'r cynnig arbennig:

  • Mae'r cynnig ar gael tan 5pm ar ddydd Gwener 26 Mehefin 2026.
  • Rhaid prynu eich ail docyn wrth Ddesg Groeso Sain Ffagan, er mwyn i'n tîm ychwanegu'r tocyn at eich cyfrif cyfredol.
  • Bydd yr ail docyn yn ddilys am flwyddyn lawn o'r dyddiad prynu, a bydd ganddo ei ddyddiad dod i ben/adnewyddu ei hun, ar wahân i'ch tocyn tymor cyntaf.
  • Bydd y gyfradd ostyngol ar gyfer 1 flwyddyn yn unig. Wrth adnewyddu'r ail docyn, bydd y pris llawn yn ddyledus.
  • Mae'r gyfradd ostyngol yn berthnasol i 1 car ychwanegol fesul deiliad tocyn tymor yn unig.
  • Beth os fydd fy nghar cofrestredig yn torri i lawr ac y bydd yn rhaid i fi ddefnyddio cerbyd llogi neu wahanol i ddod i'r safle?

    Yn ystod eich ymweliad, rhowch wybod i staff y Ddesg Groeso os fyddwch yn defnyddio cerbyd llog neu wahanol. Dangoswch dystiolaeth eich bod wedi llogi'r car a rhif cofrestru'r car er mwyn i'r tîm gofrestru'r cerbyd a dilysu parcio ar gyfer y dyddiad hwnnw.

    Beth os fydda i'n prynu car newydd ac angen newid rhif cofrestru'r cerbyd gysylltiedig â'm Tocyn Tymor?

    Cysylltwch â ⁠ tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk ⁠ gan roi gwybod bod angen i chi ddiweddaru eich manylion a'ch cerbyd cofrestredig NEU siaradwch â staff Desg Groeso Sain Ffagan a byddan nhw'n diweddari eich manylion ar y system.

    Ydy’r tocyn tymor hefyd ar gyfer systemau ANPR Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Big Pit?

    Ar gyfer maes parcio Sain Ffagan yn unig mae'r tocyn tymor yn ddilys. Bydd yn rhaid i chi dalu am barcio ar y safleoedd eraill.

    Beth fydd yn digwydd os fyddaf yn derbyn Hysbysiad Tâl Parcio ar ddamwain wrth barcio yn Sain Ffagan?

    Os byddwch o dan unrhyw amgylchiadau yn derbyn Hysbysiad Tâl Parcio drwy'r post, dilynwch y broses apelio yn yr hysbysiad a rhoi gwybod i First Parking fod gennych Docyn Tymor. Nodwch fanylion y cerbyd cofrestredig sy'n gysylltiedig â'ch tocyn tymor a dywedwch wrthynt am gysylltu ag Amgueddfa Cymru. Byddwn ni'n gweithio gyda'r cwmni i ddatrys y broblem. Ni fyddwch yn gorfod talu am barcio eich cerbyd cofrestredig os oes gennych docyn tymor dilys.