Telerau ac Amodau Tocynnau: Gwerthu i grwpiau (Teithiau Tanddaearol)

Caiff pob tocyn ei werthu yn unol â'r amodau canlynol. Darllenwch yr amodau hyn yn ofalus cyn archebu. Trwy brynu tocynnau, rydych chi'n ymrwymo i gytundeb ag Amgueddfa Cymru ar y telerau hyn.

Gwiriwch eich tocynnau yn ofalus. Ni allwn ni warantu y gellid cywiro camgymeriadau a ni fyddwn ni'n cynnig ad-daliad tu hwnt i'r Amodau hyn.

Os oes problem gyda'ch tocynnau neu os oes gennych gwestiynau neu adborth, cysylltwch â ni ar bigpit@museumwales.ac.uk

Teithiau tanddaearol yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru Rhaid i chi gyrraedd mynedfa/siop yr Amgueddfa o leiaf 15 munud cyn amser eich taith danddaearol. Rhaid i bob ymwelydd fod â Thocyn dilys er mwyn cael mynediad i'r daith danddaearol.

Gallai cyrraedd yn hwyr olygu na allwch chi ymuno â'ch taith ac ni fyddwn ni'n ad-dalu tocynnau.

Archeb grŵp yw unrhyw archeb sydd ar gyfer deg neu fwy o bobl.

Polisi Talu

Rhaid talu o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad eich ymweliad a byddwch chi'n cael gwybod hyn wrth archebu. Ar ôl hyn, os na fyddwn ni'n derbyn taliad, byddwn ni'n canslo'r archeb heb rybudd pellach.

Unwaith y byddwn ni'n derbyn taliad, gallwch chi ofyn i newid nifer y tocynnau i'r grŵp, ond bydd tocynnau ychwanegol yn amodol ar argaeledd. Os ydych chi eisiau lleihau nifer y tocynnau ar ôl talu, ni allwn ni gynnig unrhyw ad-daliad, cyfnewid na chredyd.

Rhaid talu drwy gerdyn debyd neu gredyd dros y ffôn ar gyfer pob grŵp dros 10 o bobl. Ar hyn o bryd nid oes gennym ni'r cyfleusterau i anfonebu na derbyn trosglwyddiad banc.

Polisi Ad-dalu

Yn unol â pholisi tocynnau Amgueddfa Cymru, nid ydyn ni'n cynnig ad-daliad.

Ni fyddwn ni'n rhoi ad-daliad oni bai fod y digwyddiad neu weithgaredd wedi cael ei ganslo gan yr Amgueddfa, neu os fydd yr Amgueddfa wedi cau oherwydd amgylchiadau tu hwnt i'n rheolaeth.

Os bydd digwyddiad yn cael ei ganslo, mae'n bosibl y bydd yr Amgueddfa yn ei aildrefnu ar gyfer dyddiad newydd. Yn yr achos hwn, byddwn yn anelu at drosglwyddo cynifer o ddeiliaid tocynnau â phosibl i'r dyddiad newydd. Os na fydd y dyddiad newydd yn addas ar gyfer eich grŵp, byddwn ni'n cynnig ad-daliad llawn.

Sylwer: ni fydd costau teithio na llety yn cael eu digolledu os bydd rhaid canslo neu drefnu dyddiad newydd ar gyfer digwyddiad neu weithgaredd.