Hafan y Blog Durga Y Dduwies Durga yn barod ar gyfer y Puja Am dair wythnos yng ngwanwyn 2009 yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, bu dau artist o India yn creu delweddau prydferth o’r Dduwies Durga a’u theulu. Fesul wythnos trawsffurfiwyd deunyddiau syml fel clai, papier mache, gwellt a phren yn gelfydd i greu cerfluniau manwl - pob un ohonynt â’u symbolau a’u hystyron eu hunain. Fe’u gwnaed ar gyfer Pwyllgor Puja Cymru - grŵp Hindŵaidd sydd wedi addoli yng Nghymru ers y 1970au. Gan fod eu delwedd o’r Dduwies Durga yn hen a threuliedig roedd angen un newydd arnynt. Durga yw’r Fam-dduwies anorchfygol, sy’n marchogaeth i’r frwydr ar gefn llew. Fe’i crëwyd gan y Duwiau pan oedd drygioni’n bygwth y Bydysawd. Hi yw ‘Shakti’ y pŵer dwyfol i wrthsefyll, amsugno ac ymladd pwerau’r fall. Trwy gydol yr addoli, a elwir yn Puja, mae Hindŵiaid yn dathlu buddugoliaeth Durga dros ddrygioni. Fe’i gwelwch yma yn ei holl brydferthwch yn arddangos cryfder, cynhesrwydd a chariad mamol. Saif yn falch ar gefn llew wrth iddi ladd Brenin y demoniaid, Mahisasura. Gyda hi mae ei dau fab, Ganesh a Kartikeya, a’i dwy ferch, Lakshmi a Saraswati. Deuai’r ddau artist llwyddiannus - Purnendu a Dubyendu Dey - o Kolkata, India. Trwy gydol y broses o greu dilynwyd defodau crefyddol arbennig. Y pwysicaf ohonynt oedd Chakkshu Daan – Paentio’r Llygaid. Daeth Purnendu â Durga’n fyw drwy beintio’i llygaid yn ofalus. O’r pwynt hwn ymlaen addolir delwedd o’r Dduwies fel petai ganddi’r holl bwerau a roddodd y Duwiau iddi. Mae’r Pujas yn cychwyn ar chweched diwrnod Navaratri, sef y naw noson o ddefodau i’r Dduwies Durga, gyda chroeso i’r Dduwies a’i theulu. Caiff mantrâu eu llafarganu yn Sansgrit, a chyflwynir offrymau i erfyn am fendith y Dduwies wrth ymladd drygioni. Ar ôl naw niwrnod, daw’r Dushera, y diwrnod olaf. Dyma’r diwrnod i ffarwelio â’r Fam Dduwies a’i theulu. Yn India, fe’u dodir yn nyfroedd yr afon Ganges, gyda’r gobaith o’i chroesawu’n ôl y flwyddyn ganlynol. Yng Nghymru, fe’u storir yn ofalus ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Durga Ffurfio corff Ganesha wrth glymu gwellt at strwythur gwifren Gosod cymysgedd o glai a phapur newydd ar y gwellt i ffurfio pen Ganesha Y Dduwies Durga, ei llew, a'r diawl byfflo wedi eu ffurfio o wellt a gwifren Yr artist Dibyendu Dey yn plethu gwifren a gwellt i ffurfio pen Defnyddio gwresogydd er mwyn sychu'r clai Clymu gwddf alarch Sarasvati i'r corff tra bod y clai'n sychu Lakshmi's owl Gosod mwgwd, a wnaethpwyd gan yr artistiaid eisioes, ar wyneb y Dduwies Durga Yr artist Dibyendu Dey yn ffurfio'r Dduwies Durga, ei llew, a'i gelyn, sef y diawl byfflo Pen pain Kartikeya Y wyneb yn dechrau sychu Ganesha cyn iddo gael ei baentio Llew y Dduwies Durga Rholio'r clai i greu bysedd Y clai wedi ei rholio i ffurfio bysedd a chledrau Gosod y bysedd ar ddwylo'r Dduwies Durga Delw'r Dduwies Durga yn sychu cyn cael ei phaentio Llygoden Ganesha, efallai'n symboleiddio ei ddeallusrwydd parod Paentio glud dros haenen denau o gotwm er mwyn selio'r ddelw Cymysgu'r paent Yr artist Purnendu Dey yn cymysgu'r paent powdr naturiol â dŵr The artist Dibyendu Dey painting the Goddess Durga Ganesha Y Dduwies Durga yn gorchfygu'r diawl byfflo Tylluan Lakshmi Gosod border disglair o amgylch y ddelw. Ystyrir y lliw coch i fod yn lwcus gan bobl India, ac mae gan rhai Duwiau a Duwiesau Hindŵaidd ddwylo coch i ddangos eu duwdod. Lakshmi Yr artist Purnendu Dey yn paentio llygad y llew Llew y Dduwies Durga yn ymosod ar y diawl byfflo Yr artist Purnendu Dey yn paentio pen y byfflo Gosod y cefndir, a baentiwyd â llaw, y tu ôl i'r Dduwies Durga Golwg agosach at gefndir y ddelw, a baentiwyd â llaw Y Dduwies Durga wedi seremoni paentio'r llygad. O'r pwynt hwn ymlaen mae'r Hindŵaid yn credu bod y ddelwedd yn bywiogi, ac fe addolir y Dduwies fel pe bai ganddi yr holl bwerau a roddodd y Duwiau iddi. Sarsvati, Duwies Gwybodaeth a'r Celfyddydau, yn cario ei offeryn, y veena. Kartikeya yn eistedd ar ben pain Lakshmi Ganesha, arglwydd pob peth byw Un o bedair llaw Ganesha Lakshmi, Duwies cyfoeth ac hapusrwydd Golwg agos at wisg a llaw Lakshmi Kartikeya, y milwr dewr a brawd Ganesha Sarasvati Y Dduwies Durga Y Dduwies Durga yn barod ar gyfer y Puja Sarasvati a Kartikeya Ganesha a Lakshmi sylw - (3) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Dr. S. K. Sharma & Mrs. Sharada Sharma 26 Tachwedd 2017, 13:58 We watched the whole event and it was breath taking that how an artist can make an image out of natural elements water,earth,fire,air and light. And eyes are so important that will put life into it. When we worship we feel life in image (Pratima). (That’s why eyes are focused when you take a photograph. ) Kausik Mukherjee 26 Tachwedd 2017, 09:20 Amazing work!Beautiful idol!I know how much time, effort and planning went behind this creation. Thanks to Museum of Wales for facilitating this project Sandip Raha 26 Tachwedd 2017, 09:15 We were closed involved in this project(Wales Puja committee) and had a superb experience working with Museum staff and their enthusiasm. Especially Sioned and Nia. sylw - (3) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Dr. S. K. Sharma & Mrs. Sharada Sharma 26 Tachwedd 2017, 13:58 We watched the whole event and it was breath taking that how an artist can make an image out of natural elements water,earth,fire,air and light. And eyes are so important that will put life into it. When we worship we feel life in image (Pratima). (That’s why eyes are focused when you take a photograph. ) Kausik Mukherjee 26 Tachwedd 2017, 09:20 Amazing work!Beautiful idol!I know how much time, effort and planning went behind this creation. Thanks to Museum of Wales for facilitating this project Sandip Raha 26 Tachwedd 2017, 09:15 We were closed involved in this project(Wales Puja committee) and had a superb experience working with Museum staff and their enthusiasm. Especially Sioned and Nia.