Hafan y Blog Ail-greu bywyd y Gymru gynnar Isod mae detholiad o luniau artistiaid o olygfeydd o fywyd bob dydd yng Nghymru. Mae'r delweddau'n amrywio o'r cyfnod Paleolithig, pan ddaeth pobl i Gymru am y tro cyntaf, hyd at y Goncwest Rhufeinig. Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld yn fwy manwl. Ail-greu bywyd y Gymru gynnar RhufeinigAmffitheatr Rufeinig, Caerllion, Sir Fynwy; gan J. A. Wright, 1928. Cloddiwyd ym 1926-27, mae Wright yn dangos yr amffitheatr yn hwyr yn y ganrif gyntaf OC. Ar y pryd hwn credid i'r awditoriwm gael ei gynnal gan fanc o dir a gynhaliwyd gan welydd o gerrig nadd. RhufeinigTref Rufeinig Caer-went, Sir Fynwy. Ailgread dychmygol o'r eglwys ol-Rufeinig tebygol; gan Alan Sorrell, 1938. Mae ailgloriannu diweddar o'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'r adeilad o gyfnod is-Rufeinig, ond yn fwthyn ol-ganoloesol. RhufeinigTref Rufeinig Caer-went, Sir Fynwy. Ailgread dychmygol o ymosodiad ar gornel dde-orllewinol o'r dref; gan Alan Sorrell, 1938. RhufeinigFforwm-basilica Rhufeinig yng Nghaer-went, Sir Fynwy; gan Alan Sorrell, 1955. RhufeinigTeml Rufeino-Geltaidd, tref Rufeinig Caer-went, Sir Fynwy; gan Alan Sorrell, 1955. Ail gloddiwyd y deml ym 1908. RhufeinigTref Rufeinig Venta Silurum (Caer-went), Sir Fynwy, yny 4edd ganrif OC; gan Alan Sorrell, 1937. Wedi'i seilio ar gynllun o'r dref a ddarganfuwyd wedi cloddio ar raddfa fawr yn ystod yr 20fed ganrif gynnar. RhufeinigFila Rhufeinig Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, fel yr edrychai o bosibl yn y 4edd ganrif OC; gan Paul Hughes, tua 1980. RhufeinigFila Rhufeinig Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg; gan Alan Sorrell, 1949. Y fila, fel y dangosir, yn dyddio yn ôl hyd 4edd ganrif gynnar OC. RhufeinigBarics ac adeiladau eraill yng nghornel orllewinol caer y lleng Rufeinig, Caerllion, Sir Fynwy, yn yr ail ganrif OC; gan Alan Sorrell, 1939. Mae'r ailgread yma'n dangos un gornel o'r barics yng Nghae Prysg, sydd wedi'i osod allan i'r cyhoedd ei weld. RhufeinigAmffitheatr Rufeinig, Caerllion, Sir Fynwy, yn y ganrif gyntaf OC; gan Alan Sorrell, 1939. Mae'r olygfa hon yn benthyg oddi wrth ailgread gan J. A. Wright (1928), ond mae'n dangos mwy o weithgarwch a manylion yn aradl yr amffithetar. RhufeinigCaer y lleng Rufeinig, Caerllion, Sir Fynwy, yn yr ail ganrif OC; gan Alan Sorrell, 1939. RhufeinigOlwyn ddraenio yng nghloddfa aur Rufeinig Dolaucothi, Sir Gaerfyrddin; gan Paul Hughes, tua 1980. RhufeinigPorth gorllewinol Caer-went Rufeinig, Sir Fynwy; gan Tony Daly, 1996. RhufeinigBaddonau'r Gaer, Caerllion, Sir Fynwy, fel y gallasant fod wedi ymddangos tua OC 80; gan Paul Jenkins, tua 1988. RhufeinigAnnedd brodorol Cefn Graeanog, Gwynedd, yn y 4edd ganrif OC; gan Paul Hughes, tua 1980. Yr Oes EfyddY prif fynediad i fryngaer Oes yr Haearn yn Llanmelin, Sir Fynwy; gan Alan Sorrell, 1940. Yr Oes EfyddY porth dwyreiniol o fryngaer Twyn-y-Gaer, Cymyoy, Sir Fynwy, 3edd ganrif CC; gan Paul Hughes, about 1980. Yr Oes EfyddOffrymu ger llyn scysegredig. Selir y cerbyd olwyniog ar ddarganfyddiadau o dramor ac engrafiadau ar greigiau. Llyn Fawr, Rhondda Cynon Taf, tua 650 BC; gan Paul Hughes, tua 1980. Yr Oes EfyddBryngaer Moel-y-Gaer, Rhosesmor, Sir Ddinbych, 4edd ganrif CC; gan Paul Hughes, about 1980. Yr Oes EfyddCladdedigaeth o'r Oes Efydd tua 2,000 CC: yr eneiniad olaf ynh Ngharn Pwll, Coety, Bro Morgannwg; gan Alan Sorrell, 1940. Yr Oes EfyddCladdedigaeth wrth gylch cerrig tua 1,750 CC wedi'i seilio ar Gylch y Derwyddon, Penmaenmawr, Gwynedd; gan Paul Jenkins, tua 1980. Yr Oes EfyddParatoad bedd saethwr o'r Oes Efydd, yn seiliedig ar ddarganfyddiadau o'r beddrod crwn yn Nhwyni Breach yn Fferm Breach, Llanfleddian, Bro Morgannwg tua 2,000-1,500 CC; gan Paul Jenkins, tua 1980. Yr Oes EfyddTywysoges 'Beaker' yn gwisgo cilgant aur o Lanllyfni, Gwynedd (tua 2,000 CC); gan Paul Jenkins, tua 1980. Yr Oes EfyddBryngaer Breiddin o'r Oes Efydd ger y Trallwng, Powys 1,000 CC; gan Paul Jenkins, tua 1980. Yr Oes EfyddRhyfelwyr 'Beaker' o'r Oes Efydd tua 2,500 CC; gan Paul Jenkins, tua 1980. Yr Oes EfyddDeiliaid y Cleddyfau Cyntaf, ymladdwyr o gyfnod Penard tua 1,100 BC; gan Paul Jenkins, tua 1980. Yr Oes EfyddGweithiwr metel o'r Oes Efydd ddiweddar tua 800CC; gan Paul Jenkins, about 1980. Yr Oes EfyddGweithiwr o'r Oes Efydd cynnar ('Beaker') tua 2000 CC; gan Paul Jenkins, about 1980. Yr Oes EfyddGwneud crochenwaith yn yr Oes Efydd (tua 1, 750 CC); gan Paul Jenkins, tua 1980. NeolithigAnheddiad ffermio tua 4,000 CC, gan Giovanni Caselli, 1979; Wedi'i seilio ar gloddiadau yng Nghlegyr Boia, Tyddewi, Sir Benfro, ym 1902 a 1943. NeolithigSiambr beddrod Neolithig Tinkinswood, Sain Niclas, Bro Morgannwg gan Alan Sorrell, 1940; Ailgread o olygfa gladdu yn y siambr gladdu Neolithig (tua 4,000-3,500 CC). NeolithigBarclodiad y Gawres, Ynys Môn, gan Paul Jenkins, tua 1980; Defod mewn bedd cyntedd Neolithig, tua 3,000 CC. MesolithigHela a physgota yn Nab Head, Bae Sain Ffraid, Sirn Benfro, tua 8,400 CC; Gan Giovanni Caselli, 1979. PalaeolithigAnheddiad ogof Dyn Neanderthal, tua 70,000 CC; gan Gino D'Achille, tua 1980. Wedi'i seilio ar gloddiadau yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych. PalaeolithigGolygfa o helfa, Pen-y-lan, Caerdydd, tua 250,000 CC; gan Gino D'Achille, tua 1980. PalaeolithigY gladdedigaeth ddefodol yn Pavilan Cave, Gŵyr; gan Gino D'achille, tua 1980. Crëwyd y paentiad yma pan y credwyd mai Aurignacaidd oedd o ran dyddiad (35-28,000 mlynedd yn ôl). sylw - (3) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Bruce 19 Chwefror 2021, 20:19 Excellent info. As a Caerwent resident is it possible to purchase the Alan Sorrel impression of the site please? This is for private use only. Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru 19 Hydref 2015, 09:37 Hi there Frances, Thanks for your enquiry. Please contact our Image Licensing Officer for more information about copyright and licensing - I will email over the details now. Sara Digital Team Frances Vargo 18 Hydref 2015, 10:23 I am a picture researcher working on a children's reader for use in schools, entitled 'Roman Life in Britain'. Please will you advise whether you own the copyright of the Caerwent Basilica/forum reconstruction by Alan Sorrell and whether the image would be available in high res.? And how much would you charge for supply and reproduction fee (world rights, all languages, print and digital)? Many thanks, Frances Vargo sylw - (3) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Bruce 19 Chwefror 2021, 20:19 Excellent info. As a Caerwent resident is it possible to purchase the Alan Sorrel impression of the site please? This is for private use only. Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru 19 Hydref 2015, 09:37 Hi there Frances, Thanks for your enquiry. Please contact our Image Licensing Officer for more information about copyright and licensing - I will email over the details now. Sara Digital Team Frances Vargo 18 Hydref 2015, 10:23 I am a picture researcher working on a children's reader for use in schools, entitled 'Roman Life in Britain'. Please will you advise whether you own the copyright of the Caerwent Basilica/forum reconstruction by Alan Sorrell and whether the image would be available in high res.? And how much would you charge for supply and reproduction fee (world rights, all languages, print and digital)? Many thanks, Frances Vargo