Cyfri Kate
30 Gorffennaf 2015
,Dwi'n edrych ymlaen at ein digwyddiad sgyrsiau fflach yfory - cyfle i staff o wahanol adrannau gyflwyo eu hymchwil mewn pum munud.
O ystyried amrywiaeth y disgyblaethau a'r arbenigedd sy'n bodoli 'ma (o ddaeareg gynnar i gelf modern, gofalu am esgyrn i dynnu llo...), dwi'n disgwyl dysgu rhywbeth, a'n gobeithio rhannu arfer da.
Pum Munud i Drafod Dyddiadur
Fe fydda i'n cyflwyno pum munud am @DyddiadurKate - er fod calon ymchwilydd gen i, y tîm yn Sain Ffagan sydd wedi bod yn dod â hanes Kate a'i chynefin at gynulleidfa newydd. Yn aml fe fydda i'n ymladd fy ngreddf i ymgolli mewn casgliadau a'n atgoffa fy hun mai pen hwylusydd sydd gen i - a mai fy rôl innau yw i greu gofod ar gyfer y tîm, eu hannog, a rhannu eu gwaith da ymhellach.
Model Rhannu Casgliadau
Dwi wedi fy argyhoeddi fod model @DyddiadurKate yn un y gellir ei ddyblygu i rannu casgliadau eraill - yn enwedig y gwrthrychau cynnil hynny na fydd byth yn ennill teitl fel 'trysor' neu 'eicon'. Ond ofer fyddai mentro'r un peth eto heb ymroddiad tîm, a'r holl gynnwys cefnogol sydd gennym ar flaenau'n bysedd.
O gronfa ddata casgliadau'r Rhyfel Mawr, i adnoddau allanol fel Papurau Newydd Cymru - a mewnbwn ein cynulleidfa - mae'r dyddiadur wedi bod yn sbringfwrdd i straeon amrywiol iawn am Gymru, a thu hwnt, gan mlynedd yn ôl.
Technoleg Gefnogol
O ran stwff nyrdlyd, technolegol, mae arferion rhannu asedau da wedi helpu, yn ogystal â phlatfform rhag-bostio, er mwyn rhyddhau'r curaduron o'r dasg ddyddiol o bostio, i greu amser iddyn nhw afael mewn pynciau perthnasol a'u hymchwilio ar gyfer y blog, neu greu cysylltiadau efo casgliadau eraill.
Y Rhife
Hyd yn hyn, mae dros 207,000 o argraffiadau wedi'u cofnodi ar y cyfri - llawer iawn mwy nag y gallen ni ei hwyluso yn gofforol, a mwy nag y gallai'r ddogfen ei ddioddef, yn gorffol, hefyd. Mae'r prosiect wedi codi traffig i flog Cymraeg yr Amgueddfa dros 800% o'i gymharu â llynedd - sy'n fy argyhoeddi mhellach o bwysigrwydd creu cynnwys gwreiddiol ar gyfer siaradwyr Cymraeg y we, i ateb galw go iawn, ac i greu cysylltiadau rhithiol ar hyd a lled y wlad, o'n swyddfa fach y tu ôl' i'r orielau celf.