Blog bylbiau
3 Tachwedd 2008
,Plannu er mwyn y blaned!
Mae 3,743 o ddisgyblion o 91 ysgol o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan yn archwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni. Ar ddydd Llun 20 Hydref plannodd pob disgybl fylbiau crocysau a chennin Pedr i ddechrau’r ymchwiliad hwn - sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn - i’r newid yn yr hinsawdd.
Dros y misoedd nesaf bydd pob un o’r ysgolion yn cadw cofnodion am y tywydd, ac yn nodi pryd fydd eu blodau’n agor, fel rhan o astudiaeth tymor-hir i edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.
Siarad ag Athro’r Ardd:
Byddai Athro’r Ardd wrth ei fodd i wybod sut hwyl gawsoch chi gyda’r plannu. Gadewch i ni wybod beth wnaethoch chi yn yr ysgol neu beth am anfon ambell ffotograff?
Diogelwch ar y we:
Ni fydd enwau’r plant yn cael eu cyhoeddi. Wrth adael neges, cofiwch gynnwys enw eich ysgol. Bydd eich neges yn ymddangos fel 'disgyblion o' ac 'enw eich ysgol'. Gofynnwch am ganiatâd eich athro cyn anfon neges neu ffotograff.
sylw - (11)
Professor Plant
Its going well so far, we haven't had much rain but i think the weather is changing fast. We hope to have a good week next week. From 6C
Thank you for letting us take part in this exciting project.
We both admire your work.There has been no change this week with the planting.We both went every day this week to check on the plants. Please write back soon.
Thanks