Hafan y Blog Dazu mewn Manylder: Pum Cerddor Mae'r darn hwn yn dangos pum cerddor ar falconi yn chwarae (o'r chwith i'r dde) yaogu (drwm am y canol), xiao (ffliwt a chwaraeir o'i ben), di (ffliwt a chwaraeir o'i ochr), zhuban (clapiwr bambŵ) a changgu (drwm hir siâp awrwydr). Cafodd y grŵp yma o gerddorion yn chwarae ar falconi ei ddatgloddio mewn bedd yn Moerpo yn sir Dazu. Roedd i fod i ddiddanu perchennog cyfoethog y feddrod yn y bywyd nesaf. Llinach y Song [OC960-1279] Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy am offerynnau'r cerddorion Drwm am y canol Ffliwt a chwythir o'i ben Ffliwt a chwythir o'i ochr Clapiwr bambŵ Drwm hir siâp awrwydr Drwm am y canol Yaogu yw hwn, sef drwm a glymir am ganol y cerddor ac sy'n cael ei chwarae gan ddawnswyr yn aml iawn. Ffliwt a chwythir o'i ben Xiao yw hwn, sef ffliwt a chwythir o'i ben ac sy'n cael ei wneud o famb? yn draddodiadol. Ffliwt a chwythir o'i ochr Di yw hwn, sef ffliwt a chwythir o'i ochr sy'n cael ei wneud o famb? fel arfer gyda brwynen y tu mewn sy'n rhoi sain unigryw iddo. Clapiwr bambŵ Zhuban yw hwn, sef offeryn taro sy'n cael ei chware drwy glapio sawl darn o famb? at eu gilydd. Drwm hir siâp awrwydr Changgu yw hwn, sef drwm siâp awrwydr gyda dau ben sy'n cynhyrchu seiniau o draw gwahanol. Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.