Hafan y Blog

Ymarfer y Tafod

Meinwen Ruddock-Jones, 15 Hydref 2015

Ymhen dim bydd y Nadolig yma eto ac rwy’n siwr bod llawer ohonoch eisoes wedi dechrau ar eich rhaglen ymarfer corff yn barod ar gyfer dathliadau’r Ŵyl.  Ond, os nad yw loncian ar balmentydd caled neu chwysu yn y gampfa yn apelio, beth am ddechrau gan bwyll bach trwy ymarfer y tafod yn gyntaf?

Ar nosweithiau oer o aeaf cyn dyfodiad y radio, y teledu a gemau cyfrifiadurol i'r cartref, byddai’r teulu yn ymgynnull o amgylch y tân ac yn creu eu difyrrwch eu hunain trwy adrodd storïau a rhigymau, datrys posau llafar a rhoi cynnig ar ynganu clymau tafod. 

Bu clymau tafod yn rhan bwysig o adloniant yng Nghymru dros y blynyddoedd a cheir llawer enghraifft yn Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru.  Mae eu hadrodd  yn fodd i feithrin y cof, i ymarfer llefaru yn glir a gofalus ac i reoli’r anadl.  Pa ffordd well i baratoi ar gyfer partïon y Nadolig?

Dyma rai enghreifftiau o’r archif.  Allwch chi eu hynganu’n gyflym, yn glir ac yn gywir ar un anadl?

 

Cwrci Cathlas

Yn gyntaf, cwlwm tafod ar gof Mary Thomas, Ffair Rhos, a recordiwyd gan yr Amgueddfa yn 1979:

          Ma cwrci cathlas yn tŷ ni.

          Ma cwrci cathlas yn tŷ chi.

          Ond ma’n cwrci cathlas ni yn saith glasach na’ch cwrci cathlas chi.

 

Iechyd Da i Ni’ll Dau

Ar recordiad arall mae Dr W. Grey Hughes, Waunfawr, a recordiwyd yn 1971, yn cofio cymeriad o’r ardal yn codi ei gwpan mewn te parti ac yn adrodd y canlynol:

          Iechyd da i ni’ll dau.

          Os ‘dy nhw’ll dwy’n caru ni’ll dau fel ‘da ni’ll dau'n caru nhw’ll dwy,

          iechyd da i ni'll pedwar. 

          Os nad yw nhw’ll dwy'n caru ni’ll dau fel ‘da ni’ll dau'n caru nhw’ll dwy,

          iechyd da i ni’ll dau, a gadal nhw’ll dwy o’r neilltu.

 

Englyn i’r Pry’ Cop

Ac i gloi, dyma un o’m hoff enghreifftiau i yn yr archif.   Adroddwyd y cwlwm hwn gan Lewis T. Evans, Gyffylliog, a recordiwyd yn 1971.  Englyn heb gytsain i’r pry’ cop:

          O’i wiw ŵy i wau e â; - o’i ieuau

                       Ei weau a wea;

                 E wywa ei we aea,

                 A’i weau yw ieuau iâ.

 

Mae llawer yn cofio clymau tafod a adroddwyd iddynt gan eu rhieni neu aelodau arall o’r teulu.  Oes gennych chi ffefryn?

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Neville Eynon
5 Medi 2020, 16:56
Y drydedd llinell ‘Heb och na chur y boch...a’rbedwaredd’ Ewch chychwi a’ch achau i’w ch ochain’
Lowri James
6 Chwefror 2017, 14:23
Yn iach y boch chwi a'ch bychain
Yn iachach a wychach nach ychain


Beth yw diwedd hwn ?