Dyddiadur Kate: Diwylliant ardal y pethe
25 Tachwedd 2015
,Yn ei dyddiadur yr wythnos hon, mae Kate Rowlands yn nodi fod ‘Bob Lloyd wedi codi côr i fynd i’r Bala’. Mae Bob Lloyd yn fwy adnabyddus i ni fel Llwyd o’r Bryn (1888 - 1961) – eisteddfodwr o fri, aelod o Barti Tai'r Felin a sylfaenydd Cymdeithas y Llawr Dyrnu. Mewn cyfweliad hanes llafar â Minwel Tibbott yn 1970, soniodd Kate am ddiwylliant arbennig ei milltir sgwâr a bywyd cymdeithasol ardal y 'pethe'. Erbyn hyn, roedd Kate wedi ymadael â'r Sarnau ac yn byw yn Rhyduchaf, ger y Bala. Dyma grynodeb o’r sgwrs.
Sut gymdeithas oedd yn y Sarnau yn eich hamser chi?
Di-guro ynde, dyne’r gair fyswn i’n ddeud. Wedyn mi ddoth yn y blynyddoedd cymharol ddiweddar, mi ffurfiwyd y Llawr Dyrnu’n Sarne, a chal tair eglwys i uno efo’i gilydd. A mai’n dal’n llewyrchus ddychrynllyd eto 'fyd. Yndi, dyna’i cymdeithas nhw, Llawr Dyrnu ma nhw’n galw hi.
Pa adeg ffurfiwyd honno?
Tua nineteen… alla i’m deud. Rhoswch chi ddau funud wan i fi sidro. Yn y nineteen thirties siwr gen i. Ond cyn hynny, gneud ein cymdeithas odden ni. O’ ne bopeth yn y Sarne amser honno yn de. O’dd hi’n gymdeithas … cymdeithas y capel… Ddoth na lawer iawn o farddoni… yn y Sarne te a mai’n dal felly eto ma’n siwr. Ddoth yr WEA ’fyd yn Sarne’n flodeuog iawn, iawn yn de… O gynny nhw athrawon yn WEA. Dw i’n cofio I. B. Griffith yn athraw a gynno fo dros ddeugien yn’i ddosbarth yn Sarne…
Beth fydde yn cael ’i gynnal, hanes?
Ie, hanes. Probleme yr oes w’chi, probleme cyfoes a rwbeth debyg… Y tair blynedd ola ro’n i’n Ty Hen, ddaru mi gadw’r cwbwl heb golli dim cofiwch. Thirty six o ddosbarthiade.
Beth fydde pobol yn neud gyda’r nos yn eu cartrefi?
Wn i’m be fydda nhw’n neud, cofiwch. O’dd na ryw ysbryd iach ofnadwy… Fydde ryw swperi yn ffasiwn ofnadwy chi, mynd i gartrefi gilydd. Wn i’m be fydde nhw’n neud yno. Dw i’m yn meddwl bydde nhw’n deud ’im byd drwg am neb.
Oedd na gymdeithas glos yn Sarne?
Oedd ardderchog, bob amser. Dw i’n dal i ddeud eto mai’r Seiat a’r Cwarfod Plant, dene o’dd yn byd ni wch chi’n te. Pawb yn mynd yno chi, pawb mynd yno te. O’dd neb yn meddwl peidio… pawb yn mynd i bob peth. Dydi ’di newid dwch.