Print Cyfyngedig Gwyneth Lewis
30 Mehefin 2016
,Penodwyd yr amryddawn Gwyneth Lewis yn Fardd Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 2005. Mae wedi ennill gwobr Forward Poetry ddwy waith ac yn 2012 fe enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 2005 dyma ni’n comisiynu Gwyneth i gyfansoddi cerdd am orffennol diwydiannol Cymru i ddathlu agoriad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Argraffwyd y gerdd mewn niferoedd cyfyngedig gan Wasg Gregynog. Sefydlwyd y wasg ym 1922 gan y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies – wyresau David Davies a wnaeth ei ffortiwn yn ystod chwyldro diwydiannol Cymru Oes Fictoria. Roedd y chwiorydd yn frwd dros gasglu celf a dyngarwch ac mae eu cymynrodd hael yn allweddol i gasgliad rhagorol Amgueddfa Cymru o gelf Argraffiadol ac Ôl-Argraffiadol.
Print ar bapur archif ar gael wedi mowntio neu mewn ffrâm. Argraffiad o 475 yn unig.