Sbaddu Malwod a Straeon Eraill
15 Gorffennaf 2016
,Mae’n ganol Gorffennaf. Mae’r ardd yn ei blodau, y llysiau yn wyrdd ac yn iachus a brwydr flynyddol y garddwr (neu’r archifydd yn yr achos hwn) a’r falwoden ar ei hanterth.
Mae’n debyg bod gan y falwoden gyffredin tua 14,000 o ddannedd (neu rychau ar ei thafod i fod yn fanwl gywir) ac wedi iddi dywyllu, o dan olau lleuad, gall y gelyn gwancus hwn a’i ffrindiau achosi armagedon yn y borderi gan ddinistrio misoedd o dyfiant mewn un noson o wledda.
Rhaid cymryd camau dybryd i arbed hyn rhag digwydd!
Felly, i ymddiheurio i’r malwod hynny sydd efallai wedi cwrdd â’u crêwr ychydig yn gynharach na’r disgwyl trwy amryfal ffyrdd yn yr ardd eleni - dyma bedwar pwt diddorol o Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru am y lladron llwglyd llithrig.
Sbaddu Malwod yn Abergorlech
Yn ôl Garfield Evans a anwyd yn Abergorlech yn 1909 ac a recordiwyd gan yr Amgueddfa yn 1977, roedd hi’n arfer yn yr ardal ar ddechrau’r ganrif i chwarae tric ar unrhyw blentyn dieithr a fyddai’n dod i’r ysgol. Byddent yn gofyn iddo “Wyt ti wedi gweld sbaddu malwed?”. “Na” fyddai’r ateb bob tro. Wedi dal sylw y plentyn newydd byddai un o’r bechgyn yn codi dau ddarn o bren ac yn mynd i chwilio am falwoden. Wedi dod o hyd i’r falwoden, byddai’r bachgen yn ei chodi a’i gosod i orwedd wyneb i waered ar y ddau ddarn o bren. Wrth i’r plentyn newydd syllu ar y falwoden, ac agosáu yn gegrwth ati, byddai’r daliwr yn taflu’r anifail druan yn sydyn i’w geg.
Llafarganu i’r Falwoden
Yn ôl Sian Williams a anwyd yn Nhyn-y-gongl, Môn, yn 1896, ac a recordiwyd gan yr Amgueddfa yn 1973, nid oedd ganddi hi a’i ffrindiau lawer o deganau pan yn blant. “Efo malwod oeddan ni’n chwarae’n blant, toedd gynno ni ddim byd arall.” Byddent yn dal malwoden yr un, gosod y malwod ar garreg y drws a llafarganu iddynt: ”Horn, horn, estyn dy bedwar corn allan, neu mi tafla’i di i Bwllheli, at y neidr goch i foddi” . Y plentyn â’r falwoden a fyddai’n tynnu ei phedwar corn allan yn gyntaf oedd yr enillydd.
Meddyginiaeth ar gyfer Llyfrithen
Yn ôl Blodwen Gettings a anwyd yn 1911 yn Llangwm ac a recordiwyd yn Saesneg gan yr Archif yn 1983, roedd gan y gymuned hon ger Hwlffordd feddyginiaeth wahanol iawn i’r cyffredin ar gyfer cael gwared o lyfrithen ar y llygad. I ddechrau, gellid rhwbio’r llyfrithen â modrwy briodas neu â chynffon cath, ond os na fyddai hynny’n gweithio, roedd un awgrym arall. Rhaid oedd dod o hyd i ddraenen o lwyn y ddraenen wen ac un falwoden dew o’r ardd. Wedyn aed ati i bigo’r falwoden â’r ddraenen ac arllwys yr hylif a ddeuai allan ohoni i mewn i’r llygad.
Pennill i’r Falwoden
I gloi, dyma bennill i’r falwoden gan Robin Lewis y Craswr o Felin Glasfryn. Clywodd William John Edwards, a anwyd yn 1898 ac a fagwyd ym Mhentrellyncymer, y rhigwm hwn gan ei fam pam oedd tua 15 oed ac fe’i recordiwyd yn ei adrodd gan yr Amgueddfa yn 1973.
Malwen Ddu ar ochr wal,
Slip a meddal a annodd ei dal.
Well gen i un ddu nac un wen,
A dau gorn o boptu’i phen.
sylw - (1)