Nadolig Llawen Gyfeillion y Gwanwyn
9 Rhagfyr 2016
,Helo Cyfeillion y Gwanwyn,
Heddiw yw’r diwrnod olaf i gasglu darlleniad tywydd cyn Nadolig! Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn cychwyn ei gwyliau o 16 Rhagfur, ac yn cychwyn yn ôl yn yr ysgol ar y 2 neu’r 3 o Ionawr. Byddwch yn cymryd darlleniad tywydd nesaf yr wythnos o’r 2-6 Ionawr. Wrth gofnodi eich darlleniadau i’r wefan, plîs nodwch ‘’dim cofnod’ ar gyfer y dyddiau rydych i fwrdd o’r ysgol.
Does dim rhaid cymryd eich potiau adra dros y gwyliau. Os yw’r potiau mewn lle saf lle byddant ddim yn cael ei effeithio gan y gwynt, bydda nhw’n iawn. Mae'r pridd yn cadw’r bylbiau yn ddwfn yn erbyn y tywydd oer.
Mae’r tywydd wedi bod yn eithaf cynnes am y gaeaf, a bydd o’n ddiddorol i weld yr effaith mae hyn yn cael ar ein bylbiau! Gwelodd Tachwedd 2016 tymereddau is a llai o law na flwyddyn ddiwethaf, ond llawer mwy o golau haul! Yn Dachwedd 2015 gwelodd y DU 35.6 horiau o haul, cawsom ni 74.6 o oriau blwyddyn yma, mae hwnna dros ddwbl! Oedd y tymheredd yn is, ond ddal yn gynnes am yr amser o’r flwyddyn. Oedd na llai o law, ond ddal digon i helpu ein bylbiau tyfu. Os mae’r patrwm yma yn parhau, efallai fyddwn yn weld ein blodau yn gynharach flwyddyn yma!
Mwynhewch eich gwyliau Cyfeillion y Gwanwyn.
Nadolig Llawen gan
Athro’r Ardd a Bwlb Bychan
sylw - (1)