Ai teitl fy swydd i yw’r gwiriona yn y byd?
15 Mehefin 2017
,Wel, efallai ddim yn y byd i gyd, ond yn sicr mae gyda’r gwiriona yn Amgueddfa Cymru!
Pan fydd ffrindiau’n holi “Sut mae’r swydd newydd?” fydd dweud fy mod i’n Gynorthwy-ydd Metadata Casgliadau Ar-lein ddim yn rhyw lawer o help.
Mae hon yn swydd newydd sbon yn yr Amgueddfa a grëwyd diolch i nawdd y People’s Postcode Lottery.
“Ym... enw crand am fewnbynnu data?”. Dyw hynny’n fawr o help chwaith. Mae’n wir taw eistedd wrth sgrin cyfrifiadur fydda i’r rhan fwyaf o’r amser, gyda thaenlenni a basau data yn troi fy llygaid i’n sgwâr wrth i fi symud gwybodaeth o un blwch i’r llall. Ond bob hyn a hyn bydda i’n cael fy atgoffa o werth gwirioneddol y gwaith.
Mae’r hyn sydd i fi yn gasgliad o rifau’n cambyhafio ac yn gwrthod ffitio’n y golofn gywir, mewn gwirionedd yn cynrychioli gwrthrychau a delweddau o’n casgliadau amrywiol.
Bob hyn a hyn felly, bydd llun bydenwog yn ymddangos, fel Glaw, Auvers gan Van Gough
Neu gall fod yn hen ffotograff o drigolion y teras o dai gweithwyr haearn sydd bellach yn Sain Ffagan Amgeuddfa Werin Cymru. Os edrychwn ni’n ofalus, mae’n amlwg bod rhai o’r plant ar bigau’r drain, prin yn medru aros yn llonydd i’r camera!
Mae gwrthrychau Amgueddfa Cymru i gyd wedi’u catalogio ar fas data er mwyn i ni gadw golwg ar bob eitem yn y casgliad a ble caiff ei gadw.
Fy ngwaith i yw paru’r rhifau yn y bas data gyda’r delweddau a’r wybodaeth amdanynt (dyna’r Metadata yn y teitl) er mwyn i chi gael eu gweld ar Casgliadau Ar-lein (fydd ar gael yn y fuan iawn).
Hwn fydd y cyfle cyntaf i chi gael chwilio’r bas data eich hun. Byddwch chi’n gweld yr union wybodaeth â’r curaduron pan fydda’n nhw’n chwilio drwy ein gwrthrychau. Os ydych chi am wybod faint yn union o feiciau modur sy’n y casgliadau, cyn hir gallwch chi weld dros eich hun!
Mae’n waith mawr tacluso’r holl wybodaeth cyn ei gyflwyno i’r cyhoedd, ond rydyn ni wrthi’n brysur... felly nol at y taenlenni a fi!
sylw - (1)