Bron yn amser agor siop newydd Sain Ffagan! Sara Maidment, 6 Gorffennaf 2017 Mae’r tîm wedi bod wrthi’n ddiwyd dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi’r holl stoc a silffoedd ar gyfer y diwrnod mawr ar ddydd Gwener 14 Gorffennaf. Ar gael i’w prynu bydd rhoddion o bob cwr o Gymru, gan gynnwys llwyau caru, blancedi brethyn Melin Tregwynt a blancedi wedi’u gwehyddu yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre. Siop Sain Ffagan yn ystod yr ailddatblygu, a heddiw. Bydd bwydydd newydd ar gael hefyd, o gaws Cheddar Blaenafon a chatwadau Welsh Lady o Bwllheli i ddetholiad o chwisgi Penderyn! A peidiwch anghofio ein cofroddion arbennig, newydd, yn enwedig eirth pert Sain Ffagan. Galwch draw ar ddydd Gwener 14 Gorffennaf, a dweud y gair Draig wrth dalu i hawlio gostyngiad o 10%!Mae holl elw’r siop yn mynd i gefnogi gwaith Amgueddfa Cymru.