Llys Llywelyn - paratöwch!
21 Awst 2017
,Ymhen ychydig ddyddiau fe fydd y Cymdeithas y Seiri yn Sain Ffagan er mwyn codi y ffram bren a fydd yn eistedd o fewn neuadd Llys Llywelyn - ein datblygiad diweddaraf. Gwaith y ffram bren fydd i ddal pwysau to gwellt y Llys. Yn ystod y 12fed ac 13fed ganrif adeiladwyd nifer fach o neuaddau ystlys o'r math yma, ac erbyn hyn maen't yn hynod brin. Palas yr Esgob yn Henffordd yw'r enghraifft gorau, lle mae nifer o byst derw wedi goroesi gan gynnwys un bwa gron sylweddol.
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch a:
https://amgueddfa.cymru/sainffagan/adeiladau/llys-llywellyn/
https://amgueddfa.cymru/blog/2015-11-09/Palas-yr-Esgob-Henffordd/
Mae pyst ein ffram bren ni yn 300mm (12") o drwch ac yn meinhau tuag at eu topiau - fel sydd yn naturiol i goed. Serch hynny, maen't yn fach iawn i gymharu a pyst neuadd ystlys Castell Caerlŷr a oedd yn 700mm (28") o drwch pan gafodd ei adeiladu yn 1151. Mae coed o'r maint yma wedi bod yn brin erioed, ac yn enwedig rheini a fyddai yn addas i'r bwâu. Mae'r defnydd o nwyddau prin yn awgrymmu yn gryf statws uchel y perchnogion. Mae'n bosib bod yr arcêdiau cerrig a welir mewn eglwysi ac eglwysi cadeiriol heddiw yn olynwyr i'r arcêdiau pren.
Fe fydd y Cymdeithas y Seiri yn Sain ffagan o Awst 26 ymlaen, lle fyddent yn arddangos eu crefft cyn cychwyn codi'r ffram bren. Beth am i chi alw draw yw gweld? Ymwelwch a: https://amgueddfa.cymru/sainffagan/digwyddiadau/9511/Ffrm--Cymdeithas-y-Seiri/