Hafan y Blog

Palas yr Esgob, Henffordd.

Dafydd Wiliam, 9 Tachwedd 2015

Roedd Palas yr Esgob yn Henffordd yn neuadd fawreddog un tro, a gan i’r gwaith adeiladu ddechrau ym 1180 mae’n rhoi cipolwg prin i ni ar dechnegau’r cyfnod. Yr wythnos diwethaf fe es i a rhai o’m cydweithwyr, i’r Palas i weld yr un cwpwl siap bwa sydd wedi goroesi hyd heddiw, ynghudd yn yr atig.

Un o brosiectau diweddaraf Sain Ffagan yw ail-greu un o lysoedd Tywysogion Gwynedd. Sâf y llys gwreiddiol yn Rhosyr, ger Niwbwrch ar Ynys Môn ers y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd yn un o 22 llys a ddefnyddiwyd gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau gweinyddol ym mhob ardal. Adfail yw’r llys bellach a phrin yw’r dystiolaeth o ffrâm bren y to, ac felly gwnaed ymchwil helaeth er mwyn creu cynllun addas i’r ail-greuad. Roedd tystiolaeth un sylfaen postyn ynghyd ag ardaloedd gwahanol o gerrig pafin yn awgrymu bod dwy rês o byst pren yn y brif neuadd yn rhannu’r neuadd ar ei hyd, gan greu ‘corff’ canolog a dwy ‘eil’ i’r naill ochr. Byddai’n rhaid angori pyst pren tal fel y rhain er cadernid, a dyma’r rheswm dros ein hymweliad â Henffordd. Y bwriad yw ail-greu’r dechneg fframio drwy ddefnyddio trawstiau angori bwaog tebyg, fydd yn ffurfio pendistiau cryf i ddal distiau’r to. Mae’r trawst bwaog bron mor fawreddog heddiw ag yr oedd yn anterth y neuadd.

Roedd safon y gwaith ym 1168 yn uchel iawn, a gallwch chi weld y cerfio cain ar bennau’r colofnau a’r stydwaith ar ochr uchaf y carn-tro. Rhaid nodi’r pren ei hun hefyd, gan taw dim ond breuddwydio am goed o’r maint all seiri heddiw. Crëwyd dau hanner y cwpwl o un boncyff crwm, a fyddai’n hynod o brin heddiw, ac mae’r golofn gron ger gwaelod y bwa wedi’i cherfio o’r un boncyff â’r trawst sgwâr y tu ôl iddi, sy’n galw am goeden trwchus dros ben. Er bod safon y gwaith yn uchel iawn, rhaid nodi hefyd bod rhai wedi amau y dechneg. Yn English Historic Carpentry (1980) dywedodd Cecil A. Hewett bod hyn yn ‘saernïaeth wael... lluniwyd esiampl Henffordd i safon uchel, ond gwelir y safon yn hollti medrus y pren a manyldeb y ffitio yn unig. Fel y dangosir, mae’r uniadau mor wan, prin y gellir eu galw’n uniadau...’

Ond, mae Palas yr Esgob yn dal i sefyll 835 mlynedd yn ddiweddarach er gwaethaf y ‘saernïaeth wael’. Wedi dychwelyd o Henffordd, yr her i mi yw ail-greu’r cynllun yn ein neuadd ni gan godi dwy ar bymtheg o drawstiau angori hanner cylch i ddal to gwellt Llys Rhosyr. Bydd y cyfan ar raddfa lai, ond y gobaith yw y bydd dau denon cudd ar frig y bwa yn cryfhau’r uniad, tra’n cynnal yr edrychiad traddodiadol.

Dafydd Wiliam

Prif Guradur: Adeiladau Hanesyddol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.