Defnyddio sgiliau digidol ar ddiwrnod Meddiannu Danielle Cowell, 28 Tachwedd 2017 Diwrnod Meddiannu yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.Wnaeth disgyblion o Ysgol Gynradd Lodge Hill creu fideo i hyrwyddo ein hadnodd dysgu digidol diweddaraf - Ysgol Rufeinig.Nod y diwrnod oedd rhoi cyfle i ddisgyblion adeiladu eu hyder ac i wella eu sgiliau digidol a chyflwyno.Cymerodd y disgyblion ran mewn sesiwn chwarae rôl am y dosbarth Rhufeinig.Yna creodd ffilm eu hunain o'r enw - 'Beth oedd ysgol fel yn yr oes Rufeinig?' Fydd y ffilm yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r adnodd i ysgolion eraill ar wefan Casgliad Y Werin Cymru. Dysgodd y disgyblion sut i greu stori, ysgrifennu sgript a dewis actorion ar gyfer pob golygfa. Gwelwch y fideo yma https://www.peoplescollection.wales/items/635461Mae'r adborth a'r awgrymiadau a gasglwyd gan y plant yn cael eu cynnwys yn y fersiwn derfynol o adnodd digidol. Mae'r adnodd yn cefnogi ein gweithdy chwarae rôl boblogaidd o'r enw Grammaticus - Ysgol Rufeinig.Yn ystod y dydd, cafodd y disgyblion gyfle i ddarganfod mwy am arfau Rhufeinig. Ar ôl cwblhau'r her, cyflwynwyd tystysgrif i bob disgybl gan Eleri Thomas – sef un o'r Ymddiriedolwyr ‘kids in museums’.Bydd yr adnodd - Ysgol Rufeinig ar gael ar wefan yr Amgueddfa a Hwb yn Fis Ionawr. Danielle Cowell Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC) Cysylltwch â Danielle Cowell Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.