Hafan y Blog

Protest - Cardiff High yn Meddiannu'r Atriwm!

Hywel Couch, 28 Tachwedd 2017

Yn gynharach mis yma, gwelwyd disgyblion Ysgol Cardiff High yn meddiannu Atriwm newydd yn Sain Ffagan. Llenwyd y gofod gan waith wedi ei greu gan dros 80 o ddisgyblion Celf, Cerdd a Drama wedi ei selio ar gasgliadau’r amgueddfa. Roedd hyn yn ddiwedd i 6 wythnos o waith i’r plant, ond tua 6 mis o drefnu!

Yn yr haf, cysylltwyd Eve Oliver o Ysgol Cardiff High gyda syniad o brosiect ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 sy’n astudio’r pynciau creadigol - celf, cerdd a drama. Y syniad oedd dod a’r plant at ei gilydd i weithio ar yr un thema. Ar ôl trafodaethau gydag Elen Phillips, Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol penderfynwyd ar y thema ‘Protest’. Dewiswyd hwn fel thema oherwydd base’n rhoi cyfle i’r disgyblion archwilio’i chred a gwerthoedd wrth ymateb at gasgliadau’r amgueddfa.

Ar ddechrau’r prosiect, daeth 85 o ddisgyblion i Sain Ffagan ar Hydref y 4ydd er mwyn gweld rhai o’n casgliadau. Wnaeth Elen roi sgwrs am wrthrychau a’r storion du ôl iddynt. Dangoswyd gwrthrychau yn cynnwys rhai o amgylch ymladd dros y bleidlais i fenywod, protest yn erbyn hiliaeth a streic y glowyr yn yr 1980au. Roedd hyn yn gyfle i’r disgyblion clywed y straeon ond hefyd i weld y gwrthrychau, ac mi oedd hi’n bosib gweld sut oedd y plant wedi ei hysbrydoli gan hyn.

Ar ôl ymweld â Sain Ffagan, aeth y plant nôl i’r ysgol i edrych ar y themâu yn ddyfnach. Dros y 6 wythnos nesaf cafwyd sesiynau gan Timothy Howe o’r Theatr Sherman, Anita Reynolds o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r artist Anna Barratt.

Fel diwedd i’r rhan yma o’r gwaith, dychwelwyd Cardiff High i Sain Ffagan ar Dachwedd yr 16eg i arddangos a pherfformio’i gwaith. Llenwyd yr atriwm newydd yn yr amgueddfa gyda gwaith celf a pherfformiadau. Mi oedd cynulleidfa o tua 50 yn gwylio, yn cynnwys rhieni rhai o’r perfformwyr ac ambell i staff o’r amgueddfa hefyd.

Ar gyfer y perfformiad, roedd y grŵp drama wedi dewis i berfformio detholiad o’r ddrama The Radicalisation of Bradley Manning gan Tim Price gyda’r grŵp cerddoriaeth yn perfformio’r clasur Yma o Hyd gan Dafydd Iwan. Fel cefnlen i’r holl berfformiad roedd llwyth o faneri a murlenni protest wedi ei greu gan a grŵp celf. Diweddglo’r perfformiad oedd Yma o Hyd yn cael ei chanu eto, gan yr holl ddisgyblion a’r gynulleidfa. Roedd hyn berfformiad pwerus ddaeth ar holl atriwm yn fyw!

Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda’r disgyblion yn edrych ar ei ddealltwriaeth o ‘Protest’ trwy ddefnyddio straeon cyfoes. Maent wedi dyfnhau ei ddealltwriaeth o’r gorffennol ac wedi magu gweledigaeth o gredoau pobl arall. I’r amgueddfa, mae hi wedi bod yn ffordd wych o weithio gydag ysgol uwchradd leol, trwy ddefnyddio model rydym yn awyddus i’w ddefnyddio eto. Rydym eisoes wedi dechrau trafod pa themâu gallwn archwilio’r flwyddyn nesaf!

Diolch yn fawr Cardiff High!

Hywel Couch

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.