Rhannu Hanes Lleol ar Facebook Bella Dicks, 29 Tachwedd 2018 Rydym wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i gynnwys atgofion a ffotograffau a rennir drwy grwpiau Facebook lleol mewn arddangosfeydd bach o amgylch Cymru, prosiect hynod ddiddorol i fod yn rhan ohono.Yn y dehongliad ffres hwn, rydym nid yn unig yn cyflwyno golygfeydd a digwyddiadau gafaelgar o'r ardal leol, ond hefyd yn gofyn i'n hymwelwyr rannu eu straeon eu hunain.Byddwn yn annog ymwelwyr i ddod i Lyfrgell Wrecsam o ddydd Sadwrn (1 Rhagfyr) ac i weld golygfeydd dwys a diddorol diweddar o’r cyffiniau.Bydd yr arddangosfa wedyn yn cael ei symud i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 8 Rhagfyr 2018.Yn y ddau leoliad, byddwn yn annog ymwelwyr i rannu eu straeon ac atgofion o'r ardal gyda ni.Ffordd arall o wneud hyn yw drwy Gasgliad y Werin Cymru.Gobeithio clywed eich stori chi cyn bo hir! Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.