Creadigrwydd, Cyfeillgarwch a Balchder: Gweithdai REACH Cymru gyda Innovate Trust a First Choice
20 Awst 2025
,Fel rhan o brosiect REACH (Trigolion yn Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth), rydym wedi cael y pleser o weithio gyda grwpiau o Innovate Trust a First Choice - dau sefydliad sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu yn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi dod at ein gilydd ar gyfer cyfres o weithdai creadigol i gysylltu â'n hanes a'n treftadaeth leol trwy gelf a chreadigrwydd.
Ers dechrau REACH, rydym wedi cynnal chwe gweithdy sy'n canolbwyntio ar amgueddfeydd. Dechreuon ni gyda thaith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar o amgylch Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Rhoddodd gyfle i ni i gyd arafu, sylwi ar ein hamgylchoedd, a sgwrsio mewn lleoliad hamddenol. Roedd yn gosod tôn ysgafn ac agored, un sydd wedi cario trwy'r holl sesiynau ers hynny.
Un o'r uchafbwyntiau oedd ymweliad gan ein Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTC+, Mark Etheridge. Rhannodd Mark straeon LHDTC+ pwerus o gasgliadau'r amgueddfa, a arweiniodd at sgyrsiau meddylgar. Rhoddodd le i'r grŵp fyfyrio, gofyn cwestiynau a chysylltu'r straeon hynny â'u profiadau eu hunain. Dywedodd Rhys, un o'r cyfranogwyr, “The LGBTQ+ activity at St Fagans was important to me, after that I started to talk to people and be more open with the group about being gay” Ychwanegodd Zac “this is for me, I’m gay so this is for me, look it’s cool”.
Wedi'u hysbrydoli gan wrthrychau o'r amgueddfa, dechreuodd y grŵp greu eu gwaith celf eu hunain. Roedd rhai pobl yn braslunio delweddau a negeseuon, tra bod eraill yn dylunio crysau-T. Yr hyn oedd yn sefyll allan mewn gwirionedd oedd y meddylgarwch y tu ôl i bob darn. Roedd gan bob dyluniad ystyr ac yn adlewyrchu rhywbeth go iawn i'r person a'i gwnaeth. Yn ôl Rhys “Two of my favourite activities were the art lesson with Marion and designing a t-shirt about what being Welsh meant to me. I liked them because I liked sitting down with friends and support workers, just having fun and getting creative”.
Roedd rhai o'n gweithdai mwy diweddar yn canolbwyntio ar Pride. Arweiniodd dau o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru sesiwn ddifyr am hanes ac arwyddocâd Pride, a wnaeth tanio lawer o chwilfrydedd a thrafodaeth. Cafodd y grŵp y dasg o greu baneri beiddgar, llachar y gellid eu cario yn yr orymdaith. Roedd y sesiynau hyn yn llawn brwdfrydedd, digon o liwiau ac ymdeimlad gwirioneddol o ddathlu.
Mae REACH yn ymwneud â dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mewn gweithdai, rydym yn clywed straeon sydd heb gael eu clywed o’r blaen i uwcholeuo a chryfau balchder, yn ogystal â defnyddio talentau pobl leol i herio’r stigma y mae eu cymunedau yn eu hwynebu. Gwrandewch ar beth sydd gan Eve, Cydlynydd Iechyd a Lles ar gyfer First Choice, i'w ddweud
"Being part of the Wales REACH Project, I've loved seeing a core group form of people who are passionate about learning, sharing and creating. Wales REACH has provided the group with opportunities to try new things and form new friendships; some of these people may have never otherwise crossed paths despite their common interests. Their energy and enthusiasm has been infectious and it's been wonderful to join in with some of the sessions, hosted by kind and knowledgeable facilitators".
Cadwch lygad am flogiau eraill sydd ar ddod, yn arddangos y gwaith anhygoel sydd wedi bod yn digwydd ar draws ein holl gymunedau sy'n cymryd rhan.
Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.