Cofnodion Tywydd yn dechrau heddiw
6 Tachwedd 2017
,Helo Cyfeillion y Gwanwyn,
Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu gwyliau hanner tymor!
Rwyf isio ddweud diolch mawr i bawb am eich gwaith caled ar y diwrnod plannu. Cafodd 17,360 o fylbiau ei blannu ar draws y wlad! Welais o’r llunia bod pawb wedi cael llawer o hwyl yn helpu!
Mae Cofnodion Tywydd yn cychwyn o 6 Tachwedd. Plîs wnewch yn siŵr bod eich mesurydd glaw ai’ch thermomedr wedi ei chadw mewn lle addas wrth ymyl eich bylbiau.
Mae’n syniad da i ymarfer cymryd cofnodion tywydd. Fedrwch wneud hyn wrth ychwanegu dŵr at y mesurydd glaw a chymryd mewn tro i gofnodi’r mesur. Wedyn, fedrwch gymharu i weld os mae pawb wedi cymryd yr un mesur.
Mae 'na adnoddau dysgu ar y wefan i helpu paratoi am gymryd cofnodion tywydd. Rwyf wedi atodi hyn rhag ofn bod rhai heb ei gweld eto. Mae’r adnodd hyn yn helpu ymateb cwestiynau pwysig fel ‘pam mae mesur tywydd yn bwysig i’n harbrawf o’r effaith mae’r hinsawdd yn cael ar ddyddiad blodeuo bylbiau gwanwyn’!
Defnyddiwch eich siart tywydd i gofnodi'r glaw a’r tymheredd pob ddiwrnod ysgol. Ar ddiwedd yr wythnos, cofnodwch mewn i’r wefan i rannu eich canfyddiadau. Fedrwch hefyd gadael sylwadau a chwestiynau i fi ymateb yn fy blog nesaf!
Plîs gadewch i mi wybod sut ydych yn wneud, a rhannwch luniau trwy Twitter ac e-bost.
Cadwch ymlaen a'r gwaith called Gyfeillion y Gwanwyn,
Athro’r Ardd
sylw - (2)