Hafan y Blog

Cysylltu’r ‘go iawn’ â’r digidol!

Danielle Cowell, 13 Mehefin 2018

Mae Amgueddfa Cymru wedi lansio e-lyfr newydd fydd yn helpu dysgwyr i gysylltu eu profiadau ‘go-iawn’ o’r Amgueddfa gyda chasgliadau digidol yr Amgueddfa i wella’u sgiliau digidol.

Mae’r e-lyfr yn gwahodd dysgwr i archwilio addysg plant yng nghyfnod y Rhufeiniaid, pam mai dim ond y rhai cyfoethog gâi addysg, a pham y câi merched a bechgyn eu trin yn wahanol – materion sy’n parhau’n berthnasol hyd heddiw. Mae’n cynnwys ffilm wedi’i chreu gan ddysgwr Ysgol Gynradd Lodgehill, sy’n enghraifft wych o sut y gall dysgwr ddefnyddio ymweliad â’r Amgueddfa i ysbrydoli creadigrwydd a gwella sgiliau digidol.

Cafodd y llyfr ei ddatblygu gan dîm addysg yr Amgueddfa fel rhan o gyfres sy’n cysylltu ein sesiynau poblogaidd gyda’r cymwyseddau digidol sy’n angenrheidiol ar gyfer y cwricwlwm yng Nghymru.

Mae’n addas ar gyfer dysgwr CA2 ac yn defnyddio gwrthrychau Rhufeinig i archwilio rhifedd a llythrennedd – ond yn arddull dosbarth Rhufeinig! Gallwch ei ddefnyddio fel adnodd unigol neu i gyd-fynd â sesiwn ‘Grammaticus – Dosbarth Rhufeinig’ yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Gall dysgwr ei ddefnyddio i ganfod gwybodaeth gywir a darganfod casgliadau digidol yr Amgueddfa ar gyfer projectau digidol creadigol.

Dewch i gwrdd â ni ac Ysgol Gynradd Lodgehill yn y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol i ddysgu mwy am y project. Archebwch eich lle nawr!

Cymerwch olwg a lawrlwythwch yr e-lyfr drwy'r linc isod.

Adnodd: Ysgol Rufeinig

Danielle Cowell

Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.