Straeon Covid: “Mae'r sefyllfa wedi creu cyfle i gloshau efo mhlant”
16 Mai 2020
,Cyfraniad Sali i broject Casglu Covid: Cymru 2020.
Rwy'n byw mewn ty teras yn Waunfawr, Gwynedd, efo fy merch 16 oed a fy mab 11 oed. Mae'r sefyllfa wedi creu cyfle i gloshau efo mhlant. Er eu bod dal yn mynd at eu tad yn y cload mawr, mae'r cyfnodau yn y dau le yn hirach, yn dawelach ac yn llai prysur. Rwy'n gweithio o adref ac felly yn eu amgylchedd drwy'r amser pan mae nhw yma. Rydym hefyd yn cerdded mwy yn nghwmni ein gilydd.
Rwy'n ddarlithydd nyrsio ac mae wedi bod yn andros o brysur. Rydym wedi gorfod cynnal wythnos groeso arlein ym mis Ebrill, trosi ein holl ddysgu ar-lein, dysgu llawer o sgiliau technegol newydd, hefyd ymdopi efo'r newidiadau ar gyfer ein myfyrwyr – blwyddyn 1 ddim yn cael mynd ar leoliadau clinigol felly mwy o addysg academaidd; blwyddyn 2 a 3 yn mynd allan i weithio ond angen i ni ailwampio amserlenni, gwirio y lleoliadau a sicrhau ansawdd a dilyniant eu addysg. Hyn ar gyfer cannoedd o fyfyrwyr.
Mae'r mab 11 wedi bod wrth ei fodd yn hunan reoli ei dasgiau dysgu tra ei fod adre efo fi. Mae fy merch wedi ei siomi'n ofnadwy nad yw yn medru eistedd ei arholiadau TGAU. Hefyd nad yw yn cael cyfle i orffen yr ysgol yn nghwmni ei ffrindiau (bydd yn mynd i'r coleg fis Medi) a ffarwelio'n iawn efo'r athrawon. Pan gawson nhw eu diwrnod olaf yn yr ysgol - dyddiau cyn y cloi lawr - roedd yna dristwch mawr. Disgyblion Bl 11 a'u athrawon yn emosiynol ac yn ddagreuol. Er bod fy merch yn ddefnyddiwr brwd o'r cyfryngau cymdeithasol, nid yw'n llewnwi'r bwlch ac mae'n teimlo colled ei ffrindiau a'i chyfoedion yn fawr iawn. Mae hi hefyd yn drist iawn am golli allan ar yr haf euraidd hir ar ol TGAU lle byddai wedi bod yn gwneud lot o bethau hwyliog efo'i chyfeillion - gan gynnwys mynd i Maes B yn yr eisteddfod am y tro cyntaf.
Rwy'n teimlo tosturi mawr dros y rhai ifanc yma am golli y cyfle i groesi'r trothwyl yn iawn o gyfnod eu plentyndod i fod yn oedolion ifanc. Mae wedi fy syfrdanu meddwl pa mor bwerus yw y neges rydym yn ei gyfleu i blant o'u diwrnod cyntaf yn blwyddyn derbyn mae anelu at y TGAU yw eu nod a'u ffocws. Nawr wrth dynnu'r ffocws yna oddi tanynt, mae'r bobl ifanc yma druan ar goll.
Mae nifer o fy ffrindiau lleol a minnau wedi teimlo'n euog am gael cystal amser yn y pandemig – heb golli anwyliaid eto, heb golli swyddi (achos ein bod mewn ardal dlawd ac felly llawer ohonom yn weithwyr cyhoeddus). Mi fydd felly yn ddyletswydd ar y rhai ohonom sydd wedi cadw neu atgyfnerthu ein iechyd meddwl i chwarae rhan gweithgar yn cefnogi y rhai llai ffodus pan awn yn ol at rywbeth tebycach i'r hen arferion. Bydded hynny trwy helpu 1-1 neu trwy weithredu'n wleidyddol neu rhywbeth arall.