Straeon Covid: “Jyglo emosiynau beichiogrwydd a poeni am COVID”
22 Mai 2020
,Cyfraniad Al i broject Casglu Covid: Cymru 2020.
Ar y funud, rwyf yn byw ym Mhorthmadog hefo partner. Diwrnod arferol: codi, ymolchi, newid, mynd i wneud a bwyta brecwast, gweithio ar laptop adref o 9-5, cael cinio a panad i dorri lawr y dydd ac efallai pigo i siop fach fel Spar neu siop bwtchar, yna nôl adra i wneud swpar yn barod, partner yn cyrraedd adref o weithio (key worker) ac yna ymlacio yn y nos, cysylltu â ffrindiau neu deulu, neu mynd am dro os yn braf.
Mae fy ngwaith arferol i gyd wyneb i wyneb ac yn symud o gwmpas. Wedi newid y ffordd o weithio yn gyfan gwbwl. Ddim yn gweld neb yn ystod y dydd, swydd fel arfer yn gymdeithasol iawn. Ond wedi dod â tim gwaith yn agosach gan bod treulio amser gyda'n gilydd yn brin fel arfer gan bod pawb mor brysur. Ond wrth lwc, pawb wedi bod yn gallu siarad mwy dros Team Microsoft ac ati.
Gan bod fi'n feichiog, dwi wedi stopio mynd i siopau/archfarchnadoedd mawr, ac wedi methu cael slot siopa bwyd iawn. Felly yn dibynnu ar partner i siopa bwyd mawr neu mynd i wneud siop bwyd yn lleol.
Fel mae'r amser wedi mynd, rwyf wedi bod yn teimlo yn gret un munud a trist y nesaf ac yn teimlo hiraeth mawr ar ôl sut mae'r amseroedd wedi newid. Y broses o fod yn feichiog am y tro cyntaf heb cael ei rannu hefo teulu a ffrindiau [yn anodd]. Ddim wedi gweld teulu na ffrindiau i rannu'r newyddion babi â nhw, a jyglo emosiynau beichiogrwydd a poeni am COVID tra hefo partner yn gweithio yn ganol pethau a trio gweithio o adref fel bod pethau yn gorfod trio cario ymlaen fel normal.
Gan bod y pandemig yma wedi dod dros y byd i gyd, teimlaf bod y camau mae'r Llywodraeth wedi gwneud at y lockdown ac y newid o Llywodraeth Cymru yn dda i gymharu â DU yn gyffredinol. Ond teimlaf y galla pethau wedi ei cau yn gynt, a rwy'n teimlo bod tua 2 wythnos cyn y Lockdown wedi bod yn gyfnod reit "unknown" i bawb, gan nad oedd llawer o eglurhad na sôn am camau nesaf.
Hoffwn os fyddai fo byth wedi digwydd, a gobeithiaf yr eith o mor sydyn â wnaeth o spreadio. Ac iddo wneud hyn i gyd cyn niweidio neu lladd teulu neu ffrindiau agos i mi.