Straeon Covid: “Heb fy ffrind a'i chwn dwi'm yn meddwl baswn i wedi ymdopi gymaint”
1 Mehefin 2020
,Cyfraniad Cathryn i broject Casglu Covid: Cymru 2020.
Dwi'n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ond yn wreiddiol o'r Gogledd. Dwi ryw ugain munud o gerdded i ganol y ddinas. Ma gennai ardd a dwi wrthi'n gweithio o adra ar hyn o bryd. Dwi’n byw efo fy ffrind a dau gi bach. Dwi heb weld fy nghariad yn iawn ers deg wythnos sydd wedi bod yn anodd iawn. Heb fy ffrind a'i chwn dwi'm yn meddwl baswn i wedi ymdopi gymaint.
Heblaw am ddim gweld pobl a cymdeithasu mewn corau, clwb iechyd a tafarndai does dim lot wedi newid gan ein bod ni gyd yn siarad dros petha fel Zoom. Felly diwrnod arferol ar y funud ydi codi, mynd allan yn yr ardd a darllen ar y penwythnosau. Cwpl o ddiodydd, coginio a paratoi am Zoom chat :-)
Dwi di cal amseroedd really isel. Falle tri diwrnod o fewn y 10 wythnos. Sydd ddim yn rhy wael i ddeud gwir. Dwi wir yn colli'n nghariad gan i fod o mond yn byw ryw 10-15munud o gerdded oddi wrathai a allai ddim hyd yn oed roi hug iddo. Teimlada wedi newid? Allai weld gola ar ddiwedd y twnel yng Nghymru, just angen i bawb gadw at y rheolau, negeseuon fod yn glir a dwi'n gobethio ar ôl tair wythnos bydd mesurau yn lleihau eto. Ond dwi'n hapus hefo'r pace. Wedi colli gormod o bobl yn fy mywyd o betha eraill (cancer mwya) a dwi ddim isho i'r feirws yma gymryd mwy.