Oes y Tywysogion Joe Lewis, 28 Awst 2019 Dros Nos yn Llys LlywelynMae Amgueddfa Cymru yn edrych ymlaen at lansio ein rhaglen aros dros nos yn Llys Llywelyn yr haf hwn.Ail-gread yw Llys Llywelyn o un o Lysoedd Tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif. Mae wedi'i seilio ar weddillion Llys Rhosyr yn ne-orllewin Ynys Môn.Bydd cyfle i ysgolion aros dros nos yn Llys Llywelyn rhwng Ebrill a Hydref. Yn ystod y dydd bydd y grŵp yn cymryd rhan mewn gweithdy chwarae rôl i ddysgu mwy am fywyd yn Llys Llywelyn. Gyda'r nos bydd cyfle i weld tu ôl i'r llenni yn Sain Ffagan, chwarae gemau canoloesol a chysgu gan drawstiau lliwgar yr adeilad hynod hwn.Mae'r pecyn yn cynnwys gweithdy awr o hyd, gweithgareddau hunan-arwain gyda'r nos, swper, siocled poeth, brecwast a llety dros nos.Chwilio am nawdd i aros dros nos yn Llys Llywelyn? Gall ysgolion wneud cais am grant Ewch i Weld i fynychu sefydliadau diwylliannol.Adnoddau DosbarthYn ogystal ag adeilad y Llys ei hun, rydym wedi cynhyrchu pecyn o adnoddau dosbarth sy'n dysgu mwy am Oes y Tywysogion.Cydweithiodd Amgueddfa Cymru â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i gynhyrchu'r adnoddau. Rhannwyd yr adnoddau yn 6 thema, gyda gweithgareddau dosbarth posibl ar gyfer hyd at 5 gwers i bob thema:Trosolwg, Tystiolaeth, Bywyd Bod Dydd, Cestyll a Llysoedd, Rheolwyr Cymru, a Choncwest Cymru. Mae'r adnoddau i gyd yn defnyddio casgliadau o bob sefydliad partner i ddod ag Oes y Tywysogion yn fyw.