Cadw Cofnodion Tywydd 2020
3 Chwefror 2020
,Helo Cyfeillion y Gwanwyn,
Rwyf wedi clywed bod llawer ohonoch yn disgwyl i’ch planhigion i flodeuo yn fuan! Da iawn am edrych ar ôl eich planhigion yn mor dda. Rwyf yn edrych ymlaen at weld lluniau o eich blodau, plîs rhannwch nhw hefo fi.
Beth am greu darlun botanegol o eich planhigion? Mae enghreifftiau da o lunia hyn ar gael ar wefan Amgueddfa Cymru os ydych yn edrych am syniadau. Rwyf wedi atodi llun o enghraifft o ddarlun botanegol o Gennin Pedr o gasgliad yr Amgueddfa. Yw hyn yn edrych fel planhigyn ti?
Fedri ti enwa'r rhannau gwahanol o’ch planhigion? Wyt ti’n gwybod beth yw anther a sepal? Bysa arlunio a labelu eich planhigion yn ffordd dda o edrych arnyn nhw mewn ffordd wahanol. Os ydych yn wneud hyn, plîs rannwch eich gwaith celf hefo fi.
Cofiwch edrych ar yr adnodd ‘Cadw Cofnodion Tywydd’ ar y wefan. Mae hyn yn dangos sut i wybod pryd mae eich blodyn wedi agor yn llawn a sut i gofnodi taldra eich planhigyn. Mae’r cofnodion yma yn bwysig i ein hastudiaeth, oherwydd bydd y wybodaeth hon yn rhoi’r rhif cyfartaledd i gymharu hefo blynyddoedd blaenorol.
Bydd o’n ddiddorol i weld os yw ein planhigion yn blodeuo yn gynnar blwyddyn yma. Mae’r Swyddfa MET wedi cofnodi mis Ionawr 2020 fel yr 6ed gynhesaf ers 1884. Wyt ti’n meddwl bydd hyn yn effeithio ar ddatblygiad ein planhigion?
Cofiwch i rannu eich syniadau ac adborth yn y bwlch sylwadau wrth gofnodi eich data tywydd.
Cadwch ati hefo’r gwaith caled Cyfeillion y Gwanwyn.
Athro’r Ardd