Beth am Greu Te Vintage i Ddathlu 75 Mlynedd ers Diwrnod VE?
7 Mai 2020
,Mae 8fed Mai 2020 yn nodi 75 mlynedd ers Diwrnod VE. Dathlodd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ddiwedd yr Ail Ryfel Byd pan ddaeth ymladd yn erbyn yr Almaen Natsïaidd i ben yn Ewrop. Fe'i ddathlwyd ledled y byd gorllewinol, yn enwedig yn y DU a Gogledd America, gyda mwy na miliwn o bobl yn heidio i strydoedd, lawntiau pentref a chanol trefi i ddathlu ledled Prydain.
Roedd Amgueddfa Wlân Cymru wedi bwriadi cynnal Parti Te VE ar gyfer y diwrnod hwn, ond gan ein bod ni i gyd yn cadw'n ddiogel gartref, hoffai ein tîm rannu rhai o'u ryseitiau VE blasus gyda chi yn y gobaith y gallwch chi greu dathliad eich hun i nodi'r achlysur pwysig hwn.
CACEN LEMON
8 owns margarîn neu fenyn
8 owns siwgr mân
4 wy, wedi’u curo’n ysgafn
9 owns blawd codi
1 llwy bwdin o sudd lemon
AR BEN Y GACEN
2 lwy fwrdd o siwgr mân
1 llwy fwrdd o sudd lemon
Cynheswch y popty i 180°C / 350°F / Nwy 4
Yn gyntaf mae angen iro a leinio tun 11” x 7”. Cymysgwch y margarîn neu fenyn a’r siwgr nes ei fod yn welw a hufennog, yna cymysgwch yr wyau i mewn. Ychwanegwch lwy fwrdd o’r blawd gyda’r wy i atal ceulo. Ychwanegwch y sudd lemon. Cymysgwch weddill y blawd i mewn gyda llwy bren.
Rhowch y gymysgedd yn y tun a phobi am ryw 45 munud.
Yn y cyfamser, cymysgwch sudd lemon a siwgr mân.
Tynnwch y gacen o’r popty, tyllwch hi gyda sgiwer a thywalltwch y gymysgedd lemon a siwgr dros y gacen boeth gyda llwy. Gadewch y gacen i oeri yn y tun nes mae’r gymysgedd wedi ei amsugno.
SGONS
1 pwys blawd codi
1 llwy de o halen
4 owns menyn
2 owns siwgr mân
½ peint o laeth
wy wedi’i guro i roi sglein
AR GYFER Y LLENWAD:
jam mefus neu fafon
chwarter peint o hufen dwbl wedi’i chwipio
Cynheswch y popty i 230°C 450°F Nwy 8
Hidlwch y blawd a’r halen mewn i fowlen. Rhwbiwch y menyn nes mae’r gymysgedd yn edrych fel briwsion bara. Ychwanegwch y siwgr a’i gymysgu’n does meddal gyda’r llaeth.
Rhowch y gymysgedd ar fwrdd gydag ychydig o flawd arno, ei dylino’n sydyn ac yna ei rolio yn ¼ modfedd o drwch. Torrwch 20 cylch gyda thorrwr 2½ modfedd. Rhowch y sgons ar duniau pobi wedi’u hiro a rhowch ychydig o’r gymysgedd wy (neu laeth) ar y sgons gyda brwsh. Pobwch am ryw 8-10 munud. Gadewch iddynt oeri.
Ar ôl iddynt oeri, torrwch sgon yn ei hanner a’i gweni gyda jam a hufen wedi’i chwipio.