Edrychwch beth a ddatgelwyd gan y llanw
7 Mai 2020
,Ar fore Llun ym mis Ionawr 2016 cefais alwad ffôn gan adran archeoleg yr Amgueddfa yng Nghaerdydd. Roedd storm ychydig ddyddiau ynghynt wedi symud y tywod ym Mae Oxwich ar y Gŵyr. Tybiwyd bod llongddrylliad wedi'i ddarganfod ac roedd rhai hen gasgenni pren i'w gweld! Oherwydd mai Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yw cartref ein Casgliad Morwrol, gofynnwyd imi edrych a bachu ychydig o ddelweddau cyn i'r tywod ei orchuddio eto.
Fel curadur rwy’n rhan o Adran Hanes ac Archeoleg yr Amgueddfa Genedlaethol, ac astudiais archeoleg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin felly roeddwn i’n teimlo’n barod am y dasg. Nawr, cymaint ag yr wyf wrth fy modd â thipyn o antur, roedd yn fis Ionawr ac roedd gwynt oer yn chwythu o Fôr yr Iwerydd, ond roedd arolygon y tywydd ymhen dau ddiwrnod i fod llawer yn well. Fe wnes i hela am fy esgidiau glaw (a ddarganfuwyd yng nghist y car yn y pen draw) a gwifrau egnio fy nghamera. Felly bore Mercher yn gynnar, dyma fi’n cyrraedd maes parcio Bae Oxwich.
Roedd yr amser yn berffaith, ac am naw o'r gloch roedd y llanw allan cyn belled ag y byddai'n mynd y diwrnod hwnnw. Roedd gen i gyfarwyddiadau annelwig i’w dilyn ynglŷn â ble ar y traeth y daethpwyd o hyd i’r casgenni - map crai iawn a ‘X yn nodi’r fan a’r lle’ wedi’i dynnu â llaw. Nid oedd unrhyw raddfa ar y map felly dechreuais ym mhen gorllewinol y traeth a gweithio fy ffordd ar ei draws, gan igam-ogamu i edrych ar bob twmpath bach yn y tywod.
Roedd yna lawer o dwmpathau hefyd! Llawer o ddarnau o fetel, yn amlwg o longau a oedd wedi dod i’w diwedd yma. Darnau o raff ddur, rhaffau cragennog wedi eu platio a chyd-dyrnai rhydlyd. Roedd yn ddiwrnod hyfryd i chwilio’r traeth er bod gwynt brwd yn chwythu o'r gogledd bellach yn gwneud copaon y torwyr yn niwlog. Yna yn
y pellter gwelais domen fwy o faint yn y tywod a gallwn wneud amlinell casgen. Roedd yn ymddangos fel chwe chasgen a darnau o gasgenni wedi torri, nid oedd yr un ohonynt yn gyfan. Casgenni pren hyfryd oeddynt, ac a gobeithiwn y gallent fod o leiaf ychydig gannoedd o flynyddoedd oed. Ysywaeth, roedd eu hagosrwydd at ddarn o banel dur o longddrylliad mwy diweddar yn awgrymu dyddiad mwy diweddar. Trwy gydol yr Ugeinfed Ganrif, yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac ychydig wedi hynny, drylliwyd nifer o longau ar Draeth Oxwich. Ail-arnofiwyd rhai ond chwalwyd eraill a'u sgrapio. Gyda thystiolaeth mor brin roedd yn amhosib dweud llawer am y llong yma.
Roedd y casgenni yn cynnwys sylwedd caled tebyg i goncrit, a brofodd yn ddiweddarach yn galch. Yn wreiddiol, powdwr oedd hwn a osododd yn galed yn nŵr y môr. Defnyddir calch ar gyfer nifer o bethau fel gwneud sment neu forter calch; fel gwellhäwr pridd i’w ymledu ar y tir, ac ar gyfer marcio llinellau gwyn ar gaeau pêl-droed!
Cymerais ddigon o ddelweddau ac wrth lwc roeddwn wedi cofio mynd â phren mesur 30cm gyda mi i roi graddfa maint i'r casgenni. Wrth i mi edrych, sylwais fod y llanw wedi troi ac roedd yn agosáu ac y byddai’n gorchuddio’r safle yn o fuan. Roedd yn amser gadael a gwneud fy ffordd yn ôl i Amgueddfa'r Glannau.
A yw'r casgenni i'w gweld o hyd? Dydw i ddim yn gwybod. Mae grym y môr yn symud tywod o gwmpas ar ôl pob storm gan ddatgelu ac yna cuddio trysorau hanesyddol o’r fath, efallai am saith deg mlynedd arall, efallai am byth ….
sylw - (3)