Arwr Hanesyddol: Y Llywiwr Bad Achub, Richard Evans o Foelfre
11 Mai 2020
,Gwobr uchaf y Sefydliad Bad Achub Brenhinol am ddewrder yw ei Fedal Aur, dim ond 150 ohonynt sydd wedi'u gwobrwyo ers 1824. Yn rhyfeddol, cyflwynwyd dwy Fedal Aur i Richard Evans (1905-2001), Llywiwr Bad Achub Moelfre, Ynys Môn, am ei waith arwrol yn achub ar y môr.
Enillodd Richard Evans ei Fedal Aur gyntaf ar 27 Hydref 1959 pan achosodd corwynt yr M.V. Hindlea, llong cargo bach, i lusgo'i angor ym Mae Moelfre gan achosi iddi gael ei gyrru at yr arfordir creigiog. Fe roddodd capten yr Hindlea y gorchymyn i adael y llong pan oedd hi ond 200 llath o’r lan. Cymrodd llywiwr Evans bad achub wrth gefn Moelfre, yr Edmund a Mary Robinson, gyda chriw anghyflawn, yn agos at y llong ddeg gwaith, gan alluogi’r criw wyth dyn i neidio fesul un ar y bad achub. Yn ystod yr achub, golchwyd y bad achub ar ddec y llong ac yn ôl i ffwrdd, a bu’n rhaid i’r llywiwr symud yn beryglus o agos at bropelor y llong a oedd yn corddi ar gyflymder llawn, ar adegau allan o’r dŵr ac uwchlaw’r bad achub. Ar un adeg fe aeth y bad achub drosodd nes bod ei fast o dan y dŵr cyn dod yn ôl i fyny. Ddeng munud ar hugain ar ôl i'r olaf o'r criw gael eu hachub, tarodd yr Hindlea'r creigiau a'i dryllio.
R.N.L.B. Watkin Williams, bad achub Moelfre rhwng 1957 a 1977, lle enillodd Richard Evans ei ail Fedal Aur R.N.L.I. ym 1966. Rhoddwyd y bad achub i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1983 a'i harddangos tan 1998; mae wedi ei storio ar hyn o bryd ond gellir ei weld trwy apwyntiad.
Dros ei 50 mlynedd fel llywiwr bad achub bu Richard Evans yn rhan o 179 o lansiadau a achubodd 281 o fywydau. Yn ychwanegol at ei ddwy Fedal Aur RNLI, am achubiadau eraill rhoddwyd Diolch yr RNLI iddo ar Felwm a Medal Efydd am achub yr RNLI, am yr achub ym 1959 fe'i gwobrwywyd a Medal Arian y Frenhines am ddewrder ar y môr, ac am yr achubad ym 1969 Medal yr Ymerodraeth Brydeinig. Yn 1978 fe'i gwnaed yn Fardd Anrhydeddus yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
sylw - (1)