Diwrnod i'w Gofio
13 Mai 2020
,Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn bymtheg oed yr hydref hwn, felly yn ddiweddar mae staff wedi bod yn edrych trwy ein harchif o'r seremoni agoriadol ar 17eg Hydref 2005.
Roedd y diwrnod hwnnw'n foment wych o ddathlu, gan fod yr amgueddfa wedi cymryd tua phum mlynedd i gynllunio, adeiladu a llenwi ag arddangosfeydd hynod ddiddorol ar stori diwydiannu Cymru dros y pedair canrif ddiwethaf. Hefyd, oherwydd bod arddangosfeydd rhyngweithiol bryd hynny’n dal i fod yn beth newydd iawn i amgueddfeydd, roedd cryn ddiddordeb cyhoeddus yn yr hyn a oedd yn cael ei ddisgrifio fel amgueddfa ddigidol gyntaf Cymru.
Mynychodd dros 200 o westeion y seremoni agoriadol a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog (ar y pryd), Rhodri Morgan, a’r seren rygbi, Syr Gareth Edwards. Cyfansoddodd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, gerdd ddwyieithog er anrhydedd i'r amgueddfa a darllenwyd hon yn y seremoni agoriadol gan Geidwad Diwydiant yr Amgueddfa Genedlaethol, Dr David Jenkins, a finne.
Yn wir, yr oedd yn ddiwrnod i'w gofio.