Glo a Hinsawdd
15 Mai 2020
,Tra bod Cymru yn gweithio'n galed i hyrwyddo agenda hinsawdd gadarnhaol, gyda tharged o 100% o drydan adnewyddadwy erbyn 2035, mae ein gorffennol diwydiannol yn taflu cysgod amgylcheddol hir. Yma mae Jennifer Protheroe-Jones, Prif Guradur Diwydiant, yn edrych ar ein hanes diwydiannol a'i effaith.
Cyfrannodd Cymru yn gynnar ac yn ddiarwybod at newid yn yr hinsawdd.
Dangosodd Cyfrifiad 1851 mai Cymru oedd y wlad gyntaf i fod â mwy o bobl yn cael eu cyflogi mewn diwydiant nag mewn amaethyddiaeth. Digwyddodd y newid pwysig hwn tua chanol i ddiwedd y 1840au yn ôl pob tebyg.
Roedd Cymru yn ganolfan ddiwydiant rhyngwladol nodedig yng nghanol y 19eg ganrif, gan ei bod yn un o'r cenhedloedd cynhyrchu haearn pwysicaf, ac yn ganolbwynt diwydiannau copr a thunplat y byd. Roedd glo – gâi ei fwyngloddio ar raddfa anferth yng Nghymru – yn sail i'r holl ddiwydiannau hyn, yn tanio ffwrneisi, yn pweru’r injans stêm a oedd yn gyrru peiriannau, a’r locomotifau a oedd yn tynnu deunyddiau crai a chynhyrchion gorffenedig.
Môr o wagenni rheilffordd wedi'u llwytho â glo mewn seidins ger Doc y Rhath, Caerdydd, yn aros i'w cludo ym mis Mawrth 1927. Mae'r llythrennau cyntaf ar y wagenni yn nodi ystod o brif gwmnïau'r pyllau glo: Burnyeat, Brown & Co Ltd; D.Davis & Sons Ltd; Nixon’s Navigation Coal Co Ltd; United Collieries Ltd.
Golygfa o'r awyr yn edrych i'r de-ddwyrain dros Waith Dur Caerdydd (East Moors) tua 1960.
Yn y 19eg ganrif roedd gweld mwg o bentyrrau simneiau gweithfeydd yn cael ei ystyried yn arwydd o ffyniant. Erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd mwg o losgi glo yn cael ei gydnabod fwyfwy fel niwsans, ond hefyd fel rhywbeth anochel. Dim ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd y dechreuwyd gwneud ymdrechion difrifol i leihau’r mwg o ddiwydiannau ac o danau glo mewn cartrefi – ac erbyn hynny roedd olew wedi datblygu’n ffynhonnell ynni pwysicach na glo ar draws y byd.
Mae llosgi glo, olew a nwy naturiol yn rhyddhau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill sy'n achosi newid yn yr hinsawdd. Yn rhyngwladol, caiff glo ei ddefnyddio’n bennaf wrth gynhyrchu trydan, cynhyrchu sment ac wrth wneud dur. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio glo yn y diwydiant cynhyrchu trydan yng Nghymru ym mis Mawrth 2020; mae’n parhau i gael ei ddefnyddio yn y diwydiannau dur a sment.
Arllwys llond wagen o lo yn Nociau Caerdydd, dechrau'r 20fed ganrif. Roedd rhai mathau o lo yn tueddu i dorri'n fân, felly, yn lle tipio'r wagenni yn uniongyrchol i grombil llongau o uchder sylweddol, roedd y glo yn cael ei dywallt i 'flwch gorchuddio' patent Lewis Hunter (sydd i'w weld o dan y llwch glo helaeth) gâi wedyn ei godi gan graen ar ochr y doc ar y chwith, a'i ostwng i howld y llong llong, gan leihau'r uchder gollwng.
Mae esboniad o’r rhwydwaith cymhleth o gyfathrebu a alluogodd fasnach lo ryngwladol Cymru i’w weld yn oriel y Glo, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.