Gwawr y Rheilffordd
16 Mai 2020
,Cyn dyfeisio’r trên locomotif, cyflymder a nerth y ceffyl oedd pinacl trafnidiaeth ar y tir. Newidiodd trenau stêm y cysyniad o gyflymdra’n llwyr, a gallai llawer mwy o nwyddau a phobl gael eu symud ymhellach, yn gynt ac yn rhatach.
Gweddnewidiwyd sawl agwedd o fywyd pobl gyffredin gan ddyfodiad yr oes stêm. Mewn llai na chenhedlaeth, tyfodd rheilffyrdd o fod yn ddyfeisiadau hynod i fod yn rhan ganolog o fywyd.
Dechreuodd y chwyldro ym Merthyr Tudful ar 21 Chwefror 1804 gyda’r cofnod cyntaf o daith ar gledrau dan bŵer stêm. Y dynion yng ngofal y fenter oedd y peiriannydd o Gernyw Richard Trevithick a Samuel Homfray, perchennog Gweithfeydd Haearn Penydarren.
Roedd Trevithick wedi datblygu injan stêm gwasgedd uchel gryno, llonydd, allai gael ei hadeiladu’n rhatach ac oedd yn cynhyrchu mwy o bŵer na cynlluniau tebyg o’r un maint. Cytunodd Homfray a Trevithick ar bartneriaeth i gynhyrchu injanau stêm llonydd. Yn 1801 ac 1803 roedd Trevithick wedi adeiladu a phrofi cerbydau stêm arbrofol ar y ffordd, ond heb fagu diddordeb y cyhoedd. Roedd de Cymru ar y pryd yn frith o dramffyrdd yn gwasanaethu’r gweithfeydd dur, y chwareli a’r pyllau glo – pob un gyda cheffylau yn tynnu cerbydau ar gledrau haearn. Gobeithiodd y byddai marchnad ehangach ar gyfer ei injanau stêm pwerus petai’n gallu profi eu gwerth ar y rheilffyrdd. Yn y gobaith o ehangu ei fusnes adeiladu injanau ei hun, cytunodd Homfray i ariannu’r gwaith o adeiladu locomotif stêm.
Llwyddodd y locomotif i dynnu pum wagen yn carrio deg tunnell o haearn, a 70 o ddynion oedd wedi bachu lle ar y wageni am y daith 9¾ milltir. Dros yr wythnosau canlynol gwnaeth y locomotif sawl taith o un pen y tramffordd i’r llall.
Cafodd y locomotif gryn dipyn o gyhoeddusrwydd yng Nghymru a thu hwnt.
Gan y byddai’r cledrau brau yn torri’n aml gan y locomotif trwm, cafodd ei throi’n injan llonydd ymhen ychydig fisoedd. Adeiladodd Trevithick ddwy injan arall yn Lloegr ym 1905 a 1908, ond methodd â chanfod cefnogaeth ariannol.
Er bod injanau Trevithick yn fethiant masnachol, roedd y tân wedi’i gynnau. Adeiladodd peiriannwyr yng ngogledd Lloegr – Timothy Hackworth a George Stephenson yn bennaf – gyfres o injanau locomotif dibynadwy yn y 1810au i gludo wageni glo o’r pyllau i’r dociau. Arweiniodd hyn at benderfyniad Rheilffordd Stockton & Darlington i ddefnyddio trenau stêm ar ei hagor ym 1825, a’r rheilffordd stêm hir gyntaf rhwng Lerpwl a Manceinion ym 1830.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, nid arbrawf oedd y trên stêm ond grym dibynadwy. Ymhen rhai degawdau roedd trenau stêm i’w gweld ar reilffyrdd ym mhob cyfandir.
Gellir gweld ailgread o locomotif arloesol Penydarren gan Richard Richard Trevithick yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, lle bydd hi i’w gweld yn codi stêm o hyd ar adegau.
Efallai y bydd y ffilm yma o ddiddordeb i chi hefyd:
https://museum.wales/articles/2008-12-15/Richard-Trevithicks-steam-locomotive