Grŵp Pontio Cenedlaethau Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
3 Mehefin 2020
,Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd y Grŵp Pontio’r Cenedlaethau cyntaf yn Big Pit. Nod y grŵp oedd dod â’r hen a’r ifanc ynghyd, chwalu’r rhwystrau rhwng cenedlaethau a chefnogi aelodau’r gymuned sy’n byw gyda dementia neu’n ei brofi.
Bob mis, mae thema wahanol ac mae pobl o bob oed yn dod at ei gilydd i rannu profiadau ac atgofion, weithiau i ddysgu rhywbeth newydd, ymweld â rhywle newydd neu am baned a chlonc.
Mae gennym nifer o wirfoddolwyr hen ac ifanc, gan gynnwys rhai sy’n byw gyda dementia.
Dyma Gavin a Kim. Mae Gavin yn berson iau sydd â dementia, ac yn ddiweddar mae wedi ymuno â ni fel gwirfoddolwr gweithredol ar gyfer y grŵp. Mae wedi arwain gweithgareddau celf hefyd.
O’r sesiynau cynnar, rydym wedi sylwi ar gynnydd sylweddol yn hyder pobl, a mae’r parodrwydd i rannu sgiliau, syniadau a gwybodaeth wedi tyfu o wythnos i wythnos. Mae cyfeillgarwch wedi datblygu ar draws y cenedlaethau, gyda phobl yn trefnu cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol tu hwnt i sesiynau’r grŵp.
Os hoffech chi ymuno â’r grŵp fel gwirfoddolwr, neu os hoffech ragor o wybodaeth am y grŵp, cysylltwch â: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk
Mewn partneriaeth â Chyngor Tref Blaenafon, gyda chymorth Hwb Ieuenctid Blaenafon a Western Power Distribution.
Dyma ddyfyniadau ac adborth gan aelodau a’u teuluoedd:
“[Mae Mam] wedi bod yn dweud wrtha i am y clwb, a dwi’n cael y teimlad ei bod wedi mwynhau ei phrynhawn yn fawr… roedd hi’n falch iawn o’i darluniau o’r pwll… mae hi wedi darlunio mwy yn y diwrnodau diwetha nag ers blynyddoedd! Mae hi wir yn hoffi cwrdd â phobl mae hi’n eu ’nabod am glonc”.
Adborth gan ferch i aelod Grŵp Pontio Cenedlaethau Blaenafon. Cafodd yr aelod strôc yn ddiweddar sydd wedi effeithio ar ei golwg felly mae hi wedi colli peth o’i hannibyniaeth.
“Dwi wastad yn mwynhau dod i’r grŵp. Rydych chi wastad yn gwneud i ni deimlo’n arbennig, ac mae cael bod gyda’r plant yn hyfryd. Maen nhw’n rhoi cip gwahanol i chi ar y byd. Gallwch chi deimlo’n unig yn y cartref, hyd yn oed pan mae llawer o bobl o’ch cwmpas. Alla i ddim diolch digon i chi gyd”.
Aelod rheolaidd o Grŵp Pontio Cenedlaethau Blaenafon, sy’n byw mewn cartref gofal.