Grŵp Cerdded Dementia Cynnar yn Sain Ffagan
19 Mehefin 2020
,Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi sefydlu Gwasanaeth Dementia Cynnar sy’n cyfarfod yn rheolaidd, gan ddarparu gwahanol weithgareddau a chefnogaeth i unrhyw un sy’n cael diagnosis o ddementia cynyddol cyn cyrraedd 65 mlwydd oed.
Mae’r grŵp yn cyfarfod ar ddydd Gwener bob mis i fynd am dro mewn lleoliad gwahanol yng Nghaerdydd, ac mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn falch iawn o fod yn un o’r lleoliadau hynny. Mae staff Addysg yn cyfarfod â’r grŵp bedair gwaith y flwyddyn i fynd am dro tymhorol o gwmpas y safle. Rydym yn edrych ar natur, anifeiliaid, sut mae’r tymhorau’n newid ac wrth gwrs yr adeiladau hanesyddol a’r casgliadau. Ar ôl ein taith, rydym yn dod ynghyd am sgwrs dros baned a bisged.
Dywedodd arweinydd y grŵp fod y teithiau cerdded ‘yn arbennig o boblogaidd, gyda llawer o bobl yn eu mynychu. Maent yn darparu cyfle i bobl ddod ynghyd a dysgu nad ydynt ar eu pennau eu hunain yn yr heriau maent yn eu hwynebu, a chael cefnogaeth a chyfeillgarwch rhwng y naill a’r llall.’
Mae’r sesiwn yn hamddenol a chyfeillgar, ac yn ofod diogel i’r grŵp gobeithio, yn eu galluogi nhw i deimlo’n hyderus i ddod yn ôl yn eu hamser eu hunain.
sylw - (1)