Y Siwrne tuag at Amgueddfa Gysegr Gyntaf y DU
20 Mehefin 2020
,Yn 2017 bu tîm Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Bu’r hyfforddiant yn ysbrydoliaeth iddynt ymwneud mwy â chymunedau ffoaduriaid lleol. Cafodd rhaglen ymgysylltu, cefnogi a chyfranogi ei datblygu mewn partneriaeth â ffoaduriaid lleol ac asiantaethau cefnogi i groesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’u helpu i integreiddio mewn cymunedau. Mae hyn wedi cynnwys grŵp cefnogi misol; dosbarthiadau gwnïo ac ysgrifennu creadigol; dosbarth bale i blant sy’n ceisio lloches, gydag esgidiau a gwisgoedd wedi’u rhoi gan ysgolion dawns lleol; a dwy arddangosfa gan Dîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru: Bwyd o Bedwar Ban ac Ieuenctid, Ymfudwyr, Cymry.
Fel cydnabyddiaeth o’r gwaith hwn, ym mis Mehefin 2018 daeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Amgueddfa Gysegr gyntaf y DU. Dyma flog a ysgrifennwyd gan guradur yr Amgueddfa, Ian Smith, yn 2017 am y gwaith hwn. Mae’r blog wedi’i ddiweddaru i gynnwys ystadegau heddiw ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches ledled y byd.
Mae Cymru yn wlad amlddiwylliannol, diolch i dair canrif o dreftadaeth ddiwydiannol a ddenodd bobl o bob cwr o’r byd i weithio mewn pyllau glo a chwareli, dociau a diwydiannau trymion. Yn fwy diweddar, bu meysydd twristiaeth a diwydiannau modern a myfyrwyr prifysgol yn gyfrifol am ddod â phobl o bob math o gefndiroedd i Gymru. Bu Abertawe yn un o gadarnleoedd y Gymru amlddiwylliannol ers y Chwyldro Diwydiannol, mae pobl o wahanol dras, diwylliant a ffydd wedi bod yn byw gyda’i gilydd ers canrifoedd yma. Mae’r ddinas wedi elwa ar fywiogrwydd a chreadigrwydd ei phoblogaeth amrywiol. Nid yw’n syndod felly, o ystyried y cefndir, fod Abertawe wedi dod yn ‘Ddinas Noddfa’ yn 2010, yr ail ym Mhrydain ar ôl Sheffield.
Rwyf yn rhan o dîm Hanes Cyhoeddus Amgueddfa Cymru. Byddwn yn mynd ati i chwilio am wahanol grwpiau ac unigolion yn y gymuned gan gasglu eu straeon a’u hanesion. Trwy gyfrwng fy ngwaith rwyf wedi cyfarfod pobl sydd wedi gorfod gadael eu gwlad am wahanol resymau, ac sy’n chwilio am loches a diogelwch.
Felly, pan es i am hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym mis Mai 2017, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n deall y pwnc yn weddol dda.
Roedd yr hyfforddiant dan ofal menyw oedd yn gweithio i Abertawe Dinas Noddfa a menyw arall oedd yn geisiwr lloches, a ddywedodd ei hanes wrthym.
Mae’n beth rhyfedd, rydyn ni’n gweld pethau ar y teledu ac yn darllen y papurau ac yn creu darlun o’r sefyllfa yn ein pen, ond yn aml dim ond hanner y stori gawn ni. Roedd dysgu ffeithiau a ffigyrau, a chlywed straeon personol yn agoriad llygad i mi. Sylweddolais cyn lleied oeddwn i’n ei wybod.
Er enghraifft, gofynnwyd i ni enwi, yn eu trefn, y deg gwlad sy’n derbyn y mwyaf o ffoaduriaid. Fel grŵp llwyddom i enwi un neu ddwy ar y mwyaf.
Heddiw, y gwledydd sy’n gartref i’r mwyaf o ffoaduriaid yw: Twrci, Pacistan, Libanus, Iran, Ethiopia, Bangladesh ac Uganda.
Roedd hyn yn syndod i mi. Nid yw’r DU, yr Almaen na Ffrainc yn y deg uchaf er fy mod yn siŵr y byddent, o ystyried y sylw mae’r pwnc yn ei gael ar y cyfryngau. Y gwersyll ffoaduriaid mwyaf yn y byd yw Cox’s Bazar yn Ne Bangladesh, sy’n lloches i bron i filiwn o bobl Rohingya sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi ym Myanmar.
Roedd yr hyfforddiant yn ein dysgu beth yw’r gwahaniaeth rhwng ceisiwr lloches a ffoadur. Mae’r ddau yn bobl sydd wedi gorfod gadael eu gwlad am wahanol resymau, fel rhyfel neu erledigaeth oherwydd eu crefydd neu rywioldeb.
Mae ceisiwr lloches yn berson sy’n ffoi rhag erledigaeth yn eu gwlad, ac wedi dod i’r DU gan gyflwyno eu hunain i’r awdurdodau. Yna, maent yn defnyddio eu hawl cyfreithiol i ymgeisio am loches. Os ydynt yn cael lloches yma, maent yn derbyn statws ‘ffoadur’.
Dysgais fod llawer o’r bobl hyn yn cael eu cludo i Ewrop a’r Du gan fasnachwyr pobl. Yn aml, does ganddyn nhw ddim syniad ym mha wlad maen nhw. Mae eiddo a phasbort nifer o’r bobl hyn wedi’u cymryd oddi arnynt felly does ganddyn nhw ddim ffordd o brofi pwy ydyn nhw, eu hoed, statws priodasol ac ati pan fydd yr awdurdodau yn eu cwestiynu.
Wedi asesiad a chyfweliad sgrinio, os yw person yn dod yn geisiwr lloches rhaid iddynt aros i’w hachos gael ei asesu ymhellach cyn cael gwybod os ydynt yn cael statws ffoadur neu eu gwrthod. Ar unrhyw bwynt yn ystod y broses, gall person gael ei garcharu, ei allgludo neu ei ddiymgeleddu. Mae diymgeleddu yn golygu nad oes gan berson fynediad at arian na rhywle i fyw.
Caiff ceiswyr lloches eu gwasgaru dros y wlad ac maent yn derbyn llety am ddim mewn tai preifat. Does dim hawl ganddyn nhw i weithio. Maen nhw’n derbyn mwyafswm o £37.75 yr wythnos y pen – £5.39 y diwrnod ar gyfer bwyd, deunydd ymolchi, anghenion bob dydd a theithio. Fel ceiswyr lloches rhaid iddynt lofnodi’n rheolaidd mewn swyddfa fewnfudo, sy’n gallu bod yn bell o lle maen nhw’n byw. Gall diwrnod o arian fynd ar docynnau bws yn aml.
Gall gymryd blynyddoedd i berson dderbyn penderfyniad ar ei statws ffoadur ac mae’r cyfrifoldeb ar ysgwyddau’r ceisiwr lloches i brofi fod yr erledigaeth yn fygythiad parhaus ac nid yn rhywbeth ddigwyddodd unwaith.
I lawer, mae’r cyfnod hwn mewn limbo yn un anodd. Dywedodd y fenyw ar yr hyfforddiant wrthym i ddychmygu ein hunain yn glanio yng nghanol Tsieina heb ddeall yr iaith na’r diwylliant. Mae tasgau syml yn gallu bod yn amhosib. Er enghraifft, dywedodd ei bod hi a’i dau blentyn ifanc wedi cael eu rhoi mewn tŷ yn Abertawe ar ddiwrnod oer o Ionawr. Roedd y tŷ yn oer – roedd gwres canolog, ond doedd hi erioed wedi gweld gwres canolog a doedd ganddi ddim syniad sut i’w weithio. Roedd y fenyw yn seicolegydd yn ei gwlad ei hun, ond roedd ei chymwysterau yn ddiwerth yn y DU. Dywedodd ei bod, er gwaetha’r problemau, yn teimlo’n ddiogel yma, sef y cwbl oedd hi eisiau ar gyfer ei theulu.
Wedi i’r broses cael ei chwblhau a statws ffoadur ei roi, mae gan ffoadur hawl i weithio a gwneud cais i ailuno teulu. Os na chaiff statws ffoadur ei roi, mae nifer o ffyrdd o apelio’r dyfarniad, ond yn y pendraw, os caiff statws ei wrthod, gall y person gael ei allgludo o’r wlad.
Wedi gwrando ar yr hyfforddwraig a chlywed straeon ceiswyr lloches, roeddwn yn teimlo braidd yn anobeithiol. Roedd pob stori yn gwneud i mi feddwl amdanaf i a fy nheulu, a pha mor ddiolchgar fydden ni mewn sefyllfa o’r fath o ddod o hyd i le diogel. Y peth pwysicaf ddysgais i o’r sesiwn oedd hyn: mae ffoaduriaid yn bobl fel chi a fi oedd â swyddi, tai, addysg, a safonau byw da, ond a gollodd y cwbl heb wneud dim o’i le. Maen nhw angen cyfle i ddechrau o’r dechrau heb ofn.
Yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020, cynigiodd y DU amddifyniad – ar ffurf lloches, diogelu dyngarol, ffyrdd eraill o ganiatad ac ailsefydlu – i 20,339 o bobl.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn parhau i weithio gyda grwpiau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac yn croesawu cyfeillion newydd o bob cwr o’r byd i Abertawe.