Anturiaethau mewn Argraffwaith
25 Mehefin 2020
,Ar gyfer wythnos grefftau Amgueddfa Cymru, rydym wedi bod yn gofyn i'n timau rannu eu hangerdd am grefft. Yma, mae Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris yn rhannu ychydig am ei angerdd am Argraffwaith.
Drwy gydol fy mywyd gwaith (ac ychydig cyn hynny), rwyf wedi bod wrth fy modd gyda chrefft argraffwaith – y broses flêr o daenu inc dros deip metel a phren a gwasgu darn o bapur ar yr arwyneb i greu argraffiad prydferth, glân. Er ei fod yn swnio’n weddol syml, mae proses hir o brofi a methu cyn i chi allu creu argraffiad cyson o’r teip wedi’i osod yn daclus dro ar ôl tro i greu taflen neu lyfr. Nid yw hynny’n swnio’n arbennig o ymlaciol chwaith, ond fel y mwyafrif o grefftau, mae’n hynod ddiddorol ac yn ffordd wych o roi saib i’ch meddwl o’ch swydd arferol.
Y broblem fwyaf i unrhyw un sydd am roi cynnig ar argraffwaith yw bod angen cryn dipyn o gyfarpar hyd yn oed i ddechreuwyr. Cymerodd ryw ddeng mlynedd i fi i ddod o hyd i wasg argraffu fechan, a’r teip a’r manion i gyd i ddal y geiriau at ei gilydd er mwyn eu hargraffu. Ond criw cyfeillgar yw argraffwyr, sy’n hael eu cyngor a’u cymorth i bobl fel fi sydd heb eu trwytho yn y gelfyddyd inciog hon.
Fel llawer o argraffwyr amatur, dechreuais drwy wneud fy nghardiau Nadolig fy hun, neu argraffwaith ar gyfer achlysuron arbennig megis priodas neu fedydd, gan ddefnyddio hen deip pren hyfryd sy’n hawdd ei osod ac yn creu gwead cyfoethog iawn, yn arbennig wrth argraffu ar bapur llaith wedi’i wneud â llaw. Dechreuais argraffu’r rhain ar ‘wasg nipio’ swyddfa, a ddyluniwyd yn wreiddiol i gopïo llythyrau wedi’u hysgrifennu â llaw cyn dyfeisio’r llungopïwr. Yna fe gefais wasg proflenni o weithdy carchar, ac wedyn, yn y 1990au cynnar, roeddwn yn ddigon ffodus i gael gwasg argraffu haearn bwrw Albion brydferth. Cafodd y wasg hon ei gwneud yn yr 1860au hwyr i ddyluniad gwreiddiol o tua 1820, ac mae’n dal i argraffu’n berffaith hyd heddiw.
Ychydig flynyddoedd ar ôl i mi symud i Abertawe yn 2004 i helpu sefydlu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, roeddwn yn ddigon ffodus i ymuno â Stiwdios Elysium - cwmni cydweithredol deinamig dan arweiniad artistiaid yng nghanol y ddinas. Roedd y gofod ychwanegol hwn yn golygu y gallwn ddefnyddio teip metel go iawn yn fy ngwaith. Yn bwysicach oll, roedd cael lle i fynd ar wahân i fwrdd y gegin, oedd angen cael ei glirio ar gyfer prydau o fwyd, yn golygu gallwn gymryd fy amser i feddwl drwy fy ngwaith yn drylwyr a mynd tu hwnt i greu testunau hardd yn unig.
O ganlyniad i’r rhyddid newydd hwn a’r cyfle i siarad ag artistiaid eraill, rwyf wedi ennyn diddordeb mewn defnyddio argraffwaith i arbrofi â chywreindeb iaith, lle mae atalnodi, ffurf a gosodiad yn gallu newid neu greu amwysedd yn yr ystyr. Ar ei ffurf symlaf, gall estheteg a thonyddiaeth teip pren wedi’i argraffu â llaw gael ei addasu’n radical wrth ei wneud sawl cant gwaith yn fwy. Techneg fwy cynnil yw defnyddio triptychau teipograffeg bach i dynnu sylw’r darllenydd at natur tri dimensiwn iaith wrth i eiriau tebyg a’r gwahanol ddistawrwydd rhyngddyn nhw gael eu cyfosod mewn teip plaen, wedi’i argraffu â llaw.
sylw - (1)