1 - 4 Fron Haul
21 Gorffennaf 2020
,Mae’n anodd gen i gredu fod 21 mlynedd wedi hedfan heibio ers agor Fron Haul yn Amgueddfa Lechi Cymru. Dyma oedd fy mhrosiect cyntaf yn yr Amgueddfa, ac fel un sy’n hanu o’r ardal, mae gen i atgofion melys iawn o’r cyfnod. Dyma ddarn nes i ysgrifennu ar y pryd er mwyn rhoi ychydig o gyd-destun i’r rhes.
Pam Fron Haul?
Yn wreiddiol wedi eu lleoli ar fin ffordd yn Nhanygrisiau, yng nghysgod y graig; dewiswyd y rhes gan eu bod yn nodweddiadol o’r tai teras a welir ar hyd a lled ardaloedd y chwareli.
O ran ail-godi a dehongli’r tai hyn, penderfynwyd dilyn esiampl lwyddiannus a phoblogaidd rhes Rhyd-y-car. Ond yn hytrach na chyfyngu’r stori i Danygrisiau’n unig, mae’r tai yn darlunio gwahanol gyfnodau hanesyddol yn ogystal â’r amrywiol ardaloedd chwarelyddol.
‘Oes Aur’
Ceir y cofnod cyntaf o’r tai yng Nghyfrifiad 1861. Erbyn hyn roedd y diwydiant llechi ar ei ffordd i fod yn un o’r diwydiannau pwysicaf yng Nghymru a’r prif gyflogwr yng Ngwynedd. Wrth i’r galw am lechi gynyddu, symudodd llawer o ddynion o ardaloedd amaethyddol cyfagos i weithio yn y chwareli. Mewn amryw o achosion byddai’r chwarelwyr yn aros yr wythnos mewn barics gerllaw'r chwarel ac yn teithio nôl i’w cartrefi i fwrw’r Sul. Ond yn sgil adeiladu tai gerllaw'r chwareli, symudodd amryw o’r teuluoedd er mwyn ymuno â’r penteulu, gan ffurfio cymunedau newydd ac unigryw. Fel y gellir disgwyl, chwarelwyr oedd trigolion cyntaf Fron Haul, yn hanu o blwyfi tu hwnt i Ffestiniog.
Fodd bynnag, nid oedd digon o dai i gartrefu pawb, ac yn aml iawn cydrannai dau deulu’r un tŷ, neu cafwyd perthynas neu gyfaill yn lojio â’r teulu. Tystia Cyfrifiad 1871 fod saith o bobl yn trigo yn un o dai Fron Haul. Yn ogystal â’r fam a’r tad, cafwyd merch 13 mlwydd oed, dau fab, chwech ac un mlwydd oed, morwyn 27 mlwydd oed a lojwr 29 mlwydd oed. O ystyried mai un ystafell wely oedd yn y tŷ yn wreiddiol, anodd yw amgyffred maint y gorboblogi. Yn ogystal â’r gorlenwi, roedd lleithder yn broblem, y dŵr yn amhur a’r system garthffosiaeth yn gyntefig. Does ryfedd fod afiechydon megis typhoid a’r diciâu yn fwrn ar y gymdeithas.
Y ‘Streic Fawr’
Er i’r chwarelwr dderbyn cyflog eithaf da am flynyddoedd lawer, doedd dim i’w hamddiffyn rhag colli eu swyddi neu dderbyn cwtogiadau cyflog mewn cyfnod o ddirwasgiad. Cafwyd streiciau a chloi allan yn y chwareli o dro i dro, yr amlycaf wrth reswm oedd ‘Streic Fawr’ y Penrhyn. Dyma’r anghydfod mwyaf hynod a hir hoedl yn hanes diwydiannol Prydain - y ‘Streic Fawr’ fel y’i gelwir yn aml, ac a fu ymestyn o Dachwedd 1900 hyd Tachwedd 1903.
Tasg anodd fu adlewyrchu’r tlodi a’r caledi wrth ddodrefnu tŷ streic, yn arbennig gan fod llygaid yr ymwelydd yn cael ei dynnu’n syth ar y dresel derw â’i llestri gleision a’r jygiau lustre; y trugareddau uwch y silff ben tân a’r lluniau ar y pared. Bydd yr ymwelydd craff yn sylwi ar y cerdyn printiedig â'r geiriau 'Nid oes Bradwr yn y tŷ hwn' yn ffenestr y tŷ. Gosodwyd y rhain yn ffenestri'r streicwyr gan rannu'r gymuned yn ddwy garfan. Mae cragen glan-y-môr ar y silff ffenestr - arferai gwragedd a phlant y streicwyr weiddi a hwtian ar y ‘Bradwyr’, drwy chwythu drwy gregyn glan-y-môr. Roedd y cregyn hyn i'w clywed trwy'r ardal pan ddôi'r amser i'r 'Bradwyr' ddychwel yn ôl o'r chwarel. Yn ystafell wely’r rhieni gwelir fod tad y tŷ’n hel ei baciau a cheisio ei lwc yn Y Tymbl, sir Gaerfyrddin. Amcangyfrif fod rhwng 1,400 a 1,600 o chwarelwyr Dyffryn Ogwen wedi ymfudo i lofeydd de Cymru yn ystod y Streic Fawr er mwyn cynnal eu teuluoedd.
Diwedd Cyfnod
Methodd y Streic yn ei hamcan, ac fe ddadfeiliodd y diwydiant yn fuan wedi hyn. Bu cau chwarel mor ddylanwadol â’r Penrhyn am dair blynedd lwgu’r farchnad o’u cyflenwad llechi, a bu’r masnachwyr droi eu golygon tuag at farchnadoedd tramor am eu deunydd toi. Dechreuodd y chwareli gau o un i un ar droad y ganrif, a daeth y broses i’w lawn dwf rhwng 1969 a 1971 pan orffennwyd gweithio chwareli Dinorwig, Dorothea ac Oakeley, tair o’r cewri cynt.
Mewn llai na chanrif felly, bu’r diwydiant llechi ddatblygu, llwyddo, yna edwino ac mae Fron Haul wedi cael eu dodrefnu i adlewyrchu’r newid hyn.
sylw - (1)