Hafan y Blog

Cenhedlaeth newydd yn dysgu am Fron Haul

Mirain Rhishart, 21 Mehefin 2020

Gwelodd Eryri oes aur y llechi.
Trawsnewid y werin o gaib i gŷn.
Yn nyffryn ‘Stradau, rhesi o feini,
Ymlusga’r rhimyn â‘r graig gyferbyn.
Enfawr fu’r chwyldro, ergyd fu’r chwalfa,
Dirywiad diwydiant, mwy na’i dyfiant.
Tawelwch. Y baracs fu’n segura.
Difrod gan ddwylo diarth, llechfeddiant.
Cyflawni lladrad absen fel llwynog,
Sleifio’n llechwraidd a dwyn o’r Gorlan.
A glaw fu’n llifo o’r llechwedd creigiog,
Trueni mai hyn fu tranc y drigfan.
Rhaid gwarchod ein treftadaeth, mae’n drysor,
Neu diflannu wna, fel llong heb angor.

Daw cyfnod du i darfu – gwêl golau.
Geiriau gobeithiol gŵr gwydn; Elfyn.
Parhau i drigo’r tai mae eneidiau.
Drws llonydd ddaw a cartref i’w derfyn.
Datgymalwyd hwy, cymerwyd sawl dydd
A’u gweddnewid nes nad oedd hoel o draul.
Er yr ail-gartrefwyd yr aelwydydd,
Disgleiriau edefyn ar dîr Fron Haul.
Wrth feddwl am y teuluoedd hynny,
Mae cysylltiad wrth gyffwrdd y meini.
A nghefn at y drws, edrychaf fyny
Ar olygfa gyfarwydd o lechi.
Er fod pellter i gyrraedd Llyn Padarn,
Mi wn y saif y pedwar yn gadarn.

 

Pan oeddwn i’n yr ysgol gynradd, dwi’n cofio mynd ar drip i’r Amgueddfa Lechi. Dwi’n cofio tywyswr yn mynd a ni o amgylch y safle a chael ymweld â rhes o dai’r chwarelwyr. Dwi’n cofio Mam neu Nain yn sôn o’r blaen fod hen dy Taid wedi cael ei symud i amgueddfa – roeddwn i wedi cymeryd mai yn Sain Ffagan oedd hynny. Dim ond y flwyddyn yma wnes i ddarganfod mod i wedi bod yn nhŷ Taid yn barod, ar y trip hwnnw i’r Amgueddfa Lechi.

Cysylltodd Gwenlli â mi o BROcast Ffestiniog, menter gymunedol newydd, i sôn fod yr Amgueddfa Lechi yn cynnal digwyddiad ar-lein ‘Fron Haul 21’, i ddathlu 21 o flynyddoedd ers symud y tai. Roeddwn i’n awyddus iawn i fod yn rhan o’r dathliad ond yn cael trafferth meddwl beth fuaswn i’n gallu gynnig i’r prosiect mewn cyfnod yng nghanol pandemig gan mai theatr yw fy maes!

Yn ystod sgwrs ffôn ganol Mehefin hefo Lowri, swyddog digwyddiadau yr Amgueddfa Lechi, daethom i benderfyniad y buaswn i’n ysgrifennu cerdd. Roedd gan Lowri gofnod o gerdd ysgrifennodd y Parchedig T. R Jones am Abel Lloyd (gynt o 1 Fron Haul)yn 1998, pan oedd y prosiect datgymalu wedi cychwyn. Roedd ysgrifennu cerdd yn sialens i mi gan nad oeddwn yn nabod y bobl fu’n byw yno fel y Parchedig ond roedd gen i wir awydd dysgu mwy am ddatblygiad Tanygrisiau fel pentref chwarelyddol.

Yn fuan wedyn cawsom gyfarfod zoom hefo staff yr amgueddfa – Lowri, Cadi a Julie. Ymunodd Lleucu hefyd a oedd wedi cael comisiwn i greu darlun o dai Fron Haul. Yn ystod y sgwrs yma cefais wybod gan Cadi fod Taid wedi bod yn byw yn rhif 3 FronHaul rhwng 1927 a 1933! Doedd neb yn byw yn y tai am gyfnodau hir iawn yn y cyfnod hwnnw oherwydd gan amlaf, cyplau newydd briodi oeddynt heb gychwyn magu plant.

Dysgais am fardd lleol i Danygrisiau hefyd, Elfyn. Rydw i wedi cyfeirio at linell yr ysgrifennodd o tra roedd yn wael ac yn gaeth i’w gartref, “Hyderaf y câf fel cynt, weld yr haul wedi’r helynt”. I mi, mae’r linell yng nghyd-destun fy ngherdd yn golygu hyn: er na fydd y diwydiant llechi yn debygol o fod mor llewyrchus ag yr oedd dros y ddwyganrif ddwytha, rydw i’n hyderus o’r potensial sydd gan Cymru i oresgyn rhwystrau a llwyddo fel gwlad fychan. Wedi’r cyfarfod mi dderbynnais sawl dogfen dros ebost yn llawn gwybodaeth, megis ymchwil am Danygrisiau pan godwyd y tai, rhestr cyfrifiad, blog gwaithglanhau y tai a thrawsysgrifau o gyfweliadau gyda trigolion.

Mae mesur soned yn gyfarwydd i mi ac mae’r iambic pentameter, sef rhythm curiad calon yn braf i’w glywed ar lafar. Wedi gorffen un soned, sylweddolais na allai hi sefyll ar ei phen ei hun a theimlais y dylai hi ddilyn soned arall gan ei bod hi’n obeithiol ei chynnwys. Mae naws y gyntaf yn dywyllachna’r ail gan fy mod i’n trafod y chwareli yn cau ac y distryw gafodd adeiladau gan yr hinsawdd, a gan bobl yn anffodus.

Yn y 70au, darganfuwyd fod llechi wedi cael eu dwyn oddi ar do Capel Gorlan yng Nghwmorthin. Ym 1997 cafodd canolfan dwristiaid Gloddfa Ganol ei chau pan gafodd y chwarel ei gwerthu. Yn rhan o’r atyniad yn Ngloddfa Ganol oedd bythynnod gwreiddiola gafwyd eu codi ar gyfer y chwarelwyr. Mae rhes 1-4 Tai Gloddfa yn edrych yn ddigalon iawn erbyn heddiw. Ar ddechrau’r flwyddyn, rhoddodd ferch leol lun ar y we ar dudalen grwp cymunedol Blaenau Ffestiniog. Bu hi am dro yng Nghwmorthin a sylwi ar griw o blantifanc wedi dod ar drip i’r ardal, yn sefyll ger Tai’r Llyn. Roedden nhw’n gwthio’r waliau drosodd. Rydw i’n deall ei bod hi’n amhosib amddiffyn popeth ond mae addysgu yn hynod o bwysig er mwyn deall a pharchu ein hanes, a hynny’n golygu addysgu plant Cymrua thu hwnt. Nid yw ein hanes diwydiannol yn llai nodweddiadol na’r cestyll a’r plasdai crand.

Balch iawn ydw i i gael bod yn rhan o’r dathliad. Rydw i a thrigolion Ffestiniog yn ddiolchgar iawn fod tai Fron Haul wedi cael eu harbed rhag cael eu dymchwel. Dyma lwyddiant ysgubol o ddiogelu a dogfennu elfen o hanes Cymru. Dywedodd Cadiy curadur fod dros filiwn o bobl wedi ymweld â Fron Haul ers 1999. Pob dymuniad da i’r amgueddfa wrth groesawu’r miliwn nesaf dros y rhiniog.

Mae prosiectau wedi'u harwain gan bobl ifanc ar draws yr amgueddfa yn ran o gynllun Dwylo ar Dreftadaeth, a arianir gan Grant Tynnu'r Llwch Cronfa Treftadaeth y Loteri. Diolch yn fawr i'r Gronfa ac i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol - dan ni'n croesi'n bysedd i chi! 

Logo Cronfa Dreftadaeth

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.