Straeon yn y Meini - project ffilm.
21 Mehefin 2020
,Wrth i’r gwaith o ddatgymalu’r tai nesáu – fe sylweddolais fod angen i ni gofnodi’r broses er mwyn i ni allu ei dangos i ymwelwyr yn yr amgueddfa yn ddiweddarach – roedd angen i ni ddatgelu’r broses ryfeddol a oedd ar fin digwydd ac adrodd hanes y tai hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Y cwmni a fu’n gyfrifol am y project ffilm oedd Llun y Felin, sef cwmni Angela a Dyfan Roberts a oedd yn byw yn Llanrug. Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw greu’r ffilm hyfryd o’r enw ‘Straeon yn y Meini’. Fel y tai, mae’r ffilm yn un oesol ac yn dal i gael ei dangos yn ddyddiol yn yr amgueddfa – ac erbyn hyn, am y tro cyntaf, ar-lein! Yma mae Angela Roberts yn edrych yn ôl ar rai o’i hatgofion o’r broses o greu’r ffilm.
Wrth i’r gwaith o ddatgymalu’r tai nesáu – fe sylweddolais fod angen i ni gofnodi’r broses er mwyn i ni allu ei dangos i ymwelwyr yn yr amgueddfa yn ddiweddarach – roedd angen i ni ddatgelu’r broses ryfeddol a oedd ar fin digwydd ac adrodd hanes y tai hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Y cwmni a fu’n gyfrifol am y project ffilm oedd Llun y Felin, sef cwmni Angela a Dyfan Roberts a oedd yn byw yn Llanrug. Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw greu’r ffilm hyfryd o’r enw ‘Straeon yn y Meini’. Fel y tai, mae’r ffilm yn un oesol ac yn dal i gael ei dangos yn ddyddiol yn yr amgueddfa – ac erbyn hyn, am y tro cyntaf, ar-lein! Yma mae Angela Roberts yn edrych yn ôl ar rai o’i hatgofion o’r broses o greu’r ffilm.
Beth sy’n gwneud cartref? Brics a morter, ynteu pobl?
Pan ddewisodd Amgueddfa Lechi Cymru ein cwmni teledu bach ‘gŵr a gwraig’ i recordio’r gwaith o symud pedwar o dai chwarelwyr llechi o Danygrisiau i’r amgueddfa, yr hyn a berodd y cyffro mwyaf i mi oedd y cyfle i ddatgloi straeon y rhai oedd wedi byw yno o’r rwbel.
Yn anarferol iawn, roedd enwau a galwedigaethau’r holl deuluoedd a’r lojars wedi’u dogfennu’n ofalus – gan fynd yn ôl 150 mlynedd i breswylwyr cyntaf y tai.
Llechi, wrth gwrs, oedd hanfod eu bodolaeth. Mae ‘The Slate Quarries of North Wales’, a gyhoeddwyd ym 1873, yn disgrifio Blaenau a’r cylch fel ‘Dinas Lechi’ gyda pharapetau, cerrig palmant, simneiau a thoeau wedi’u torri o lechi, a phantrïoedd, byrddau cegin a silffoedd pen tân wedi’u creu o lechi.
Yn ôl llythyrau gan awdur anhysbys o’r cyfnod hwnnw:
Roeddwn i wedi mynd i chwarel cwmni’r Welsh Slate Company ac, wrth ddychwelyd heibio’r tomenni rwbel, deuthum ar draws bachgen trwsiadus yr olwg a oedd yn tynnu meini o grombil y gwastraff. Fe ddechreuais sgwrsio ag ef.
“Pam wyt ti’n casglu meini?”
“I wneud llechi, Syr.”
“Onid ydyn nhw’n rhy fychan i wneud llechi?”
“Ddim i wneud llechi bach, Syr!”
Roedd y bachgen yn deall ei bethau. Roedd pob llechen yn ddefnyddiol. Onid oedd wedi bod yn gweithio yn y chwareli llechi ers yn chwech oed?! Â’r awdur yn ei flaen:
“Cyrhaeddais y chwarel ganol dydd, a chefais y fraint o sychu fy nillad o flaen y tân mawn yn y cwt pwyso. Yn fuan daeth y dynion i mewn, pob un ohonynt yn cymryd tun o’r lle tân. Fe ddechreuais sgwrsio a gweld yn fuan iawn eu bod yn gwbl radical eu gwleidyddiaeth, eu bod yn cydymdeimlo’n rhadlon, a’u mor fyrbwyll â Cheltiaid.”
Ychydig yn nawddoglyd? Efallai. Ond radical, rhadlon a byrbwyll – wrth gwrs eu bod nhw! A buan y dois i wybod nad oedd llawer wedi newid yn yr holl flynyddoedd hynny.
Aeth Julie (swyddog marchnata’r amgueddfa), fi a’r gŵr, Dyfan, ati i ddod o hyd i bobl a’u ffonio. Roedd ein teithiau i gwrdd â chyn breswylwyr 1-4 Fron Haul a’u perthnasau yn fwynhad pur. A braint o’r mwyaf oedd eistedd a gwrando ar eu hanesion dros fisgedi a chacen gartref a chwpanau diddiwedd o de.
Roedd Aneurin Davies yn ei nawdegau ar y pryd, yn dal i redeg ei fferm ei hun ac yn dal i fod mor ddireidus ag y bu, mae’n siŵr, fel plentyn. Dan chwerthin, soniodd wrthym am y triciau roedd o a’i ffrindiau yn eu chwarae – gosod dimai ar y trac trên er mwyn i’r trên fynd heibio a’i gwasgu i faint ceiniog, ac yna’n syth i’r siop i geisio ei chyfnewid am losin (yn aflwyddiannus mae’n debyg)!
Roedd Marian Jones yn un arall a siaradai’n gynnes am blentyndod arbennig - gydag atgofion am feiciau, cylchoedd hwla a chaeau gwair, am gasglu penbyliaid a stwffio’u hunain â phys melys oedd wedi’u dwyn o’r ardd.
Cofiai Robin Lloyd Jones ymweld â’i daid yn Rhif 3 - portread o’r chwyldroadwr o’r Eidal, Garibaldi ar dop y grisiau, y Beibl a chetyn ar y bwrdd, gan gymryd ei dro i gael bath o flaen y tân mewn hen fath tun.
Roedd Doreen Davies yn hel atgofion gyda gwên o’i mam yn coginio gwleddoedd ar y popty haearn bwrw. “Sut ar y ddaear fyddai’n ‘neud, ond mi fydda’n ni’n ca’l digon o fwyd i f’yta... Fydda Mam yn cael hwyl ar ‘neud teisen afal, cacan gri, ychi Welsh Cake.”
Abel Lloyd fu’n byw yn Fron Haul hiraf - am dros 76 o flynyddoed, yn wir, er ei eni. Cofiai am lieiniau yn cael eu gosod ar y nenfydau i wneud y cartref yn gynhesach a bu’n sôn am gasglu dŵr glaw a dŵr o’r ffynnon i wneud te – gan fod blas drwg ar y dŵr o’r tap. Ond, yn hytrach na’r cyfnodau anodd, ei atgofion pennaf oedd am yr amseroedd da a’r llawenydd o fyw mewn cymuned glos.
Fel Marian ac Aneurin a Robin a Doreen, bu’n sôn am garnifalau a phawb yn dod at ei gilydd, y caredigrwydd a phentref llawn Modryb hon a hon ac Ewyrth hwn a hwn - er nad oedd y cymdogion yn perthyn drwy waed o gwbl. Fel y lleill, roedd ganddo oes o straeon i’w hadrodd am 1-4 Fron Haul.
Fel yr atebai Robin ei hun mewn ffordd mor huawdl i mi,
“Beth sy’n gwneud cartref? Nid y clustogau, y papur wal, na lliw’r paent yn y pen draw – ond straeon y bobl oedd yn byw yno, y straeon yn y meini.”
Abel Lloyd hefo Doreen Davies a’i brawd tu allan i Fron Haul ar ddiwrnod agoriadol y tai yn 1999