Datgloi ~ Unlock: Ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Gyda'ch Geiriau Chi
28 Gorffennaf 2020
,Byddwn yn dathlu ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ôl mwy na phedwar mis mewn barddoniaeth, gyda dwy gerdd newydd am fywyd yn ystod y cyfnod clo. Yr wythnos hon, rydym yn lansio ymgyrch i'ch cael chi i gyfrannu geiriau ac ymadroddion ar gyfer yr hyn a fydd yn etifeddiaeth farddonol o’r amseroedd digynsail hyn i'r ddinas.
Edrychwn ymlaen at ddatgloi ei drysau a'ch croesawu chi yn ol i'r amgueddfa ar yr 28ain o Awst, er ar sail mynediad gyda thocyn (am ddim) wedi ei archebu oflaen llaw, er mwyn rheoli niferoedd a chynnal mesurau pellter cymdeithasol.
Mae 2020 yn ben-blwydd yr Amgueddfa yn 15 oed. Agorodd y drysau yn gyntaf ym mis Hydref 2005, i eiriau cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru ar y pryd, Gwyneth Lewis. Felly, ar gyfer datgloi'r drysau ym mis Awst, ein bwriad yw plethu geiriau, rhythmau a rhigymau unwaith eto, y tro hwn gyda'ch cymorth chi!
Bydd Datgloi ~ Unlock yn ddathliad barddonol o ddatgloi'r drysau ac ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar ôl cyfnod cloi Covid. Hoffwn glywed wrthoch am ddau beth, mewn 280 llythyren, sef hyd neges drydar:
- Disgrifiwch eich profiad o'r cyfnod cloi (ATEB MEWN 280 nod neu lai)
- Pam ydych chi'n edrych ymlaen at ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau? (ATEB MEWN 280 nod neu lai)
Gallwch ymateb trwy ein Tudalen Facebook: www.facebook.com/waterfrontmuseum
neu trwy drydar @the_waterfront gan ddefnyddio # DatgloiUnlock
neu ddanfon ebost at DatgloiUnlock@museumwales.ac.uk
Trwy'r prosiect yma, ein gobaith yw casglu blas o brofiad y ddinas ac ardaloedd cyfagos o’r cyfnod cloi, a deall beth fydd ailagor yr amgueddfa yn ei olygu i'r gymuned. Yna bydd y beirdd a gomisiynwyd, Aneirin Karadog a Natalie Ann Holborow yn cymryd eich geiriau a'u crefftio'n ddwy gerdd, un yn Gymraeg, a'r llall yn Saesneg.
Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris: “Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd a'n dilynwyr lleol trwy gyfryngau cymdeithasol ac yn gofyn iddynt rannu ymadrodd neu ddau am y cyfnod cloi a'r hyn y maent yn edrych ymlaen fwyaf at ei weld / ei wneud pan fydd ein hamgueddfa'n ailagor. Yna bydd ein beirdd yn defnyddio'r geiriau a'r ymadroddion hyn fel sail ac ysbrydoliaeth i'w cerddi, fel eu bod yn adlewyrchu profiadau ein cymuned yn ystod y cyfnod digynsail hwn, ac yn dathlu datgloi ein hamgueddfa, sydd dros y 15 mlynedd diwethaf wedi canfod ei lle wrth galon cymuned y ddinas. ”
Mae gan y beirdd a gomisiynwyd ar gyfer y prosiect hwn gysylltiadau cryf ag ardal Abertawe.
Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd yw Aneirin Karadog. Cafodd ei fagu yn Llanrwst cyn symud i Bontardawe yn yr 1980au.
Graddiodd o Goleg Newydd, Prifysgol Rhydychen, gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Llydawes yw ei fam a Cymro yw ei dad; mae'n gallu siarad Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl. Mae Aneirin yn wyneb cyfarwydd ar S4C, ac yn Brifardd. Mae'n cyfansoddi barddoniaeth ar ystod o fetrau o rap syncopatig i gynghanedd, ac mae ei waith wedi'i gyhoeddi'n eang.
Mae Natalie Ann Holborow yn falch o fod o’r un dref enedigol a Dylan Thomas.
Mae’n awdur sydd wedi ennill sawl gwobr. Rhestrwyd ei chasgliad cyntaf, 'And Suddenly You Find Yourself' (Parthian, 2017) fel un o 'Oreuon 2017' Adolygiad Celfyddydau Cymru ac fe'i lansiwyd yng Ngŵyl Lenyddol Ryngwladol Kolkata. Mae hi wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Gair Llefaru Rhyngwladol Cursed Murphy a bydd ei hail gasgliad, 'Small', yn cael ei gyhoeddi gan Parthian yn 2020.
Rydym yn ddiolchgar i Lenyddiaeth Cymru am eu cymorth i sefydlu'r prosiect hwn. Dadorchuddir y cerddi yn agoriad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ar 28 Awst.
Ar hyn o bryd mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn casglu myfyrdodau ac atgofion am Covid 2020. Darganfyddwch fwy am ein prosiect Casglu Covid: Cymru 2020 yma: www.amgueddfa.cymru/casglu-covid/