Ysbrydoliaeth o Natur
4 Awst 2020
,Mae llawer o brosesau diwydiannol wedi'u hysbrydoli gan natur, a gellid eu hystyried yn estyniad mecanyddol o broses law draddodiadol a oedd yn defnyddio pethau o fyd natur. Mae'r Gigiwr yn enghraifft wych o hyn. Dyma ychydig am y peiriant hynod hwn sy'n gymysgedd o'r naturiol a'r dynol.
Yn draddodiadol, byddai pobl yn defnyddio teilai neu 'lysiau'r cribwr' i gribo arwyneb y brethyn gwlân gwlyb gyda phennau pigog llysiau’r cribwr er mwyn ei wneud yn feddal ac yn fflwffiog. Yr enw ar hyn yw ‘codi’r geden’.
Dyfeisiwyd y peiriant hwn i gyflymu’r broses a’i gwneud yn fwy effeithiol. Mae’r gigwr yn cynnwys 3000 o lysiau’r cribwr pigog mewn ffrâm haearn ac fe’i gyrrir gan drydan.
Roedd y brethyn yn symud dros lysiau’r cribwr, gan roi gorffeniad mwy gwastad a fflwffiog iddo.
Mae’r gigwr yn gymysgedd diddorol o’r naturiol a'r diwydiannol. Roedd yn cyfuno prosesau a wnaed â llaw yn y gorffennol â pheirianneg fanwl – sef dyfodol y diwydiant tecstilau.
Byddai ‘Dyn Llysiau’r Cribwr’ yn teithio o un felin i’r llall i adnewyddu llysiau’r cribwr yn y gigwyr. Roedd y gwaith hwn yn gofyn am grin dipyn o fedr gan fod rhaid trefnu pennau llysiau’r cribwr yn ofalus er mwyn sicrhau bod y brethyn yn cael ei orffen yn wastad. Roedd y rhan fwyaf o lysiau’r cribwr yn dod o erddi arbenigol yng Ngwlad yr Haf.
sylw - (2)
Dear Valerie Belsey,
Thank you for getting in touch with us. I have passed your enquiry to my colleagues at the National Wool Museum, they will hopefully be able to advise further.
Many thanks,
Nia
(Digital Team)