Stori SS Arandora Star yn eich dosbarth: Hydref 2020
11 Medi 2020
,Yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ein nod yw i groesawu a rhoi profiad byw, unigryw o Gymru, ei phobl a’r diwydiannau sydd wedi siapio ein gwlad a’n cymdeithas i ddisgyblion ysgol. Rydyn ni yn yr Amgueddfa wedi bod yn rhan o bartneriaeth arloesol am 15 mlynedd a mwy gyda Theatr na nÓg, Amgueddfa Abertawe a Technocamps. Mae’n bartneriaeth unigryw i Gymru, os nad Prydain. Mae’n cyfuno theatr byw gyda chasgliadau lleol a chenedlaethol ac arbenigedd Technocamps mewn cyfres o weithdai cyffrous.
Eleni, fe ddaw Theatr na nÓg â stori bwysig yr Arandora Star, a suddodd 80 mlynedd yn ôl, yn fyw i ddisgyblion ar draws Cymru drwy ddrama radio gyffrous. Bydd y ddrama eleni yn canolbwyntio ar Lina, merch ifanc sy'n byw yn Abertawe sy'n wynebu dyfodol ansicr ar ôl i'r Eidal ymuno â'r Rhyfel yn 1940. Mae ei thad yn cael ei gymryd o'u caffi bach yn Abertawe ac yn cael ei gludo ar yr Arandora Star. Collodd 805 o bobl eu bywydau, gan gynnwys Cymry o dras Eidalaidd, oedd ar eu ffordd i wersylloedd yng Nghanada.
Fe fydd hi’n flwyddyn go wahanol eleni yn sgil Covid-19 i ni ac i’r disgyblion. Fel arfer ar yr adeg yma o’r flwyddyn, fe fydden ni’n brysur yn gorffen paratoi gweithdai ‘hands-on’ cyffrous, yn barod i groesawu miloedd o blant ysgol drwy ddrysau'r Amgueddfa ond eleni mae pethau’n wahanol iawn i bob un ohonom. Gyda Covid-19 a'r cyfnod clo a ddilynodd daeth yn amlwg na fydden ni’n gallu dilyn yr un drefn - rhaid oedd bod yn fwy creadigol! Felly, gyda ein tîm bach, wnaethon ni fynd ati i greu gweithdy digidol, gyda ffilmiau byrion ac adnodd athrawon i gyd-fynd â’r ddrama radio ar The Arandora Star, gan ganolbwyntio ar stori technoleg ac arloesedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Felly yng ngweithdai digidol yr Amgueddfa byddwn yn cyflwyno cymeriad Capten Edward Morgan o’r Llynges Frenhinol. Bydd yn tywys dysgwyr trwy manylion y suddo a chyflwyno dyfeisiau a thechnoleg y cyfnod. Mae yna becyn ar gyfer athrawon gyda cyfres o wersi ag awgrymiadau er mwyn gwneud gwaith estynedig sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru 2022.Fe fydd y cynnwys i gyd ar gael drwy app gwych Theatr Na nÓg.