Egin yn barod?
19 Tachwedd 2009
,Gofynnodd disgyblion o Ysgol Gynradd Oakfield yng Nghaerdydd: 'Pryd bydd y bylbiau'n egino?'
Fel arfer 'nid tan ar ôl Nadolig' fyddai f'ateb ond mae rhai wedi dechrau egino'n barod.
Dywedodd disgyblion o Ysgol Gynradd Pentre-poeth yn Abertawe: 'Cawsom syndod o weld egin ac erbyn hyn gwelsom rai yn y gwelyau blodau. Dyma lun i chi eu gweld.'
O edrych ar y llun er nad wyf gant y cant yn si?r maent yn ymddangos fel egin cennin Pedr. Edrychwch ar fy llun o'r llynedd - beth ydych chi'n ei feddwl?
Gadewch sylwadau os gwelwch unrhyw egin cynnar. Danfon lluniau at scan@aocc.ac.uk
Diolch, Athro'r Ardd
sylw - (4)
keep up the good work.
Professor Plant