Hafan y Blog

Sgrinwyna 2021 - Cwestiynau Cyffredin:

Bernice Parker, 19 Chwefror 2021

Rydyn ni'n barod ar gyfer tymor wyna arall yn Sain Ffagan ac rydyn ni'n gwybod eich bod chi'n edrych ymlaen at y #sgrinwyna.  Felly, rydyn ni wedi casglu atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin a gododd dros y flynyddoedd. Cofiwch y canlynol pan fydd pethau'n poethi yn y sied wyna: 

Pam fod y defaid yn penio’u gilydd? 

Mae’r defaid mewn hwyliau drwg, yn hormonaidd ac yn diriogaethol wrth baratoi i roi genedigaeth. Dim ond dannedd gwaelod sydd gan ddefaid, gyda pad caled ar eu gên uchaf – perffaith i falu porfa ond da i ddim i gnoi. Dydyn nhw ddim yn dda am gicio chwaith gyda’i coesau tenau. Mae peniad cryf yn berffaith i greu lle i’w hunain! 

Pam fod gan rai o’r defaid strapiau glas arnyn nhw?  

Fel pob anifail beichiog gall defaid weithiau ddioddef o gwymp y groth (edrychwch i ffwrdd nawr os ydych chi’n tueddu i simsanu). Fel arfer, caiff ei achosi gan ŵyn mawr. Mae’r harnais yn helpu dal popeth yn ei le tan y bydd y famog yn barod i wyna. Mae’r rhan fwyaf o ddefaid wedyn yn gallu wyna yn ôl yr arfer heb waredu’r groth hefyd. 

Mae rhai o’r defaid yn gloff neu’n cerdded ar eu pengliniau – fyddwch chi ddim yn gwneud dim? 

Bydd y defaid yn cael torri eu gwinedd yn gyson, ond dyw hi ddim yn syniad da gwneud hyn pan fyddan nhw ar fin rhoi genedigaeth. Mae’n rhaid eu heistedd ar eu tinau (fel wrth gneifio) all wasgu ar eu hysgyfaint a’u hatal rhag anadlu. Felly erbyn amser wyna byddan nhw’n drwm iawn, a rhai gyda’u traed yn brifo. Ar ôl rhai diwrnodau i orffwys byddwn ni’n torri eu gwinedd fel rhan o’n pecyn gofal i famau newydd.  

Mae rhai defaid yn dioddef poen nerfau yn eu coesau oherwydd pwysau’r ŵyn tu fewn iddyn nhw. Gall hyn eu gwneud yn gloff, ond bydd fel arfer yn gwella ar ôl rhoi genedigaeth. Os yw dafad yn bwyta ac yfed yn iawn mae’n well ei gadael gyda’r praidd – dim ond mewn argyfwng meddygol fyddwn ni’n gwahanu’r defaid. 

Oes unrhyw un yn gofalu am y defaid? 

Mae tîm bychan a diwyd yn gofalu am y sgrinwyna. Pan fydd pethau'n prysuro bydd staff profiadol wrth law ddydd a nos. 

Yw'r defaid mewn poen?  

Ydyn - mae nhw'n rhoi genedigaeth, a gall esgor fod yn broses hir a phoenus!  

Rydw i wedi bod yn gwylio dafad mewn trafferthion - pam nad oes neb yn mynd i'w helpu hi? 

Mae defaid yn anifeiliaid nerfus sydd ddim yn ymlacio o gwmpas pobl. Eu greddf yw rhedeg i ffwrdd (fel y gwelwch chi pan fydd aelodau'r tîm yn mynd i mewn). Mae rhedeg o gwmpas y sied yn rhoi straen ar y defaid ac yn arafu'r enedigaeth. Mae'r bugeiliaid yn gwylio'n dawel o bell ac yn ymyrryd cyn lleied â phosibl. Mae sied dawel, ddigynnwrf yn golygu genedigaeth gynt i bawb. 

Ond mae hi wedi bod mewn trafferthion ers oes a does neb wedi'i helpu hi! 

Yn ogystal â'r sied ar y camera, mae siediau meithrin ar gyfer y defaid a'r wyn. Bydd y tîm yn asesu anghenion y praidd i gyd ac yn blaenoriaethu'r defaid gwannaf. Bydd oen sâl sydd angen cael ei fwydo drwy diwb yn cael blaenoriaeth dros ddafad sy'n esgor. Cofiwch, efallai bod aelod staff yn gwylio gerllaw ond ddim ar y sgrin. 

Pam ydych chi'n gadael iddo barhau mor hir? 

Rhaid gadael y broses esgor tan bod ceg y groth wedi lledu digon i'r oen gael ei eni. Gall hyn bara 30 munud, neu sawl awr. Yn aml, y rhai sy'n gwneud y mwyaf o ffys yw'r defaid blwydd sy'n rhoi genedigaeth am y tro cyntaf. Y defaid yma sy'n gorfod gweithio galetaf i agor ceg y groth. Genedigaeth caesarian fyddai'r dewis olaf un, ac nid yw'r rhagolygon ar gyfer y ddafad yn dda iawn. Mae esgoriad hir yn ddewis llawer gwell bob tro - sori ferched! 

Mae dafad yn y sied yn sgrechian mewn poen... 

Mae defaid fel arfer yn hollol dawel wrth roi genedigaeth (yn wahanol i amser bwydo!). Bydd anifeiliaid gwyllt yn rhoi genedigaeth mor dawel â phosib er mwyn osgoi denu sylw ysglyfaethwyr ar foment mor fregus. Pan fydd dafad gyda'i llygaid led y pen, yn taflu ei phen yn ôl ac yn dangos ei gweflau, mae'n arwydd o gryfder y cyfangiadau. Mae hyn yn beth da ac yn golygu ei bod hi yn ymroi ac y bydd hi'n rhoi genedigaeth yn fuan. 

Rydw i newydd weld y bugail yn rhoi pigiad i'r ddafad - pigiad o beth? 

Gall pigiad calsiwm gyflymu'r broses os yw dafad wedi bod yn esgor am amser hir ond nad yw ceg y groth yn agor yn rhwydd.  

Pam fyddan nhw weithiau'n siglo'r oen gerfydd ei draed? 

Mae'n hanfodol bod yr oen yn dechrau anadlu ar ei ben ei hun yn syth wedi cael ei eni. Weithiau mae'r gwddf a'r trwyn yn llawn hylif. Weithiau bydd y bugail yn gwthio gwelltyn i drwyn yr oen i'w helpu i beswch neu disian. Os na fydd hyn yn gweithio byddan nhw weithiau'n siglo'r oen gerfydd ei goesau ôl. Mae'n olygfa ddramatig, ond dyma'r dull gorau o glirio'r hylif. Mae grym allgyrchol yn helpu'r oen i beswch yr hylif allan. 

Beth mae nhw'n ei wneud wrth roi eu dwylo y tu fewn i'r ddafad? 

Darllenwch y blog yma o 2016 am esboniad llawn o beth sy'n digwydd. 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.