Pwy sy'n dyfod dros y bryn â chennin Pedr yn ei sach?
5 Rhagfyr 2009
,Nadolig llawen cyfeillion y bylbiau
Mae nifer ohonoch wedi gweld egin newydd a hynny yn bell cyn y Nadolig. Yr wythnos hon daeth f'egin i hefyd. Maent yn 2cm o uchder a gallwch eu gweld yn y llun.
Mae'r hydref eleni llawer yn dwymach na'r llynedd. Mae'r tymheredd ar gyfartaledd yng Nghymru ar gyfer mis Hydref a Thachwedd bron 1.5 gradd yn dwymach nag oedd yn 2008. Fel canlyniad mae llawer o gennin Pedr wedi dechrau tyfu'n barod. Dywedodd ffermwyr Really Welsh: 'Gwelsom lawer o egin cennin Pedr yn dechrau tyfu. Mae'r tywydd twym a gwlyb yn golygu bydd ein cennin Pedr yn barod ar gyfer y siopau yn y gwanwyn. Efallai bydd y blodau'n agor ychydig o wythnosau'n gynharach na'r llynedd'.
Os bydd rhew adeg y gwanwyn sy'n dod gall fod yn niweidiol i'r cennin Pedr a ddechreuodd dyfu. Ond mae'r cennin Pedr yn wydn iawn a byddent mwy na thebyg yn blodeuo'n hardd. Bydd yn ddiddorol i weld a fydd egin cynnar yn tyfu'n flodau cynnar. Daliwch i ddisgwyl.
Diolch i chi wyddonwyr ifainc am gadw cofnodion mor gywir o'r tywydd. Maent yn ein helpu i ddeall y tymhorau a byd natur. Rhowch wybod os gwelwch unrhyw blanhigion eraill yn tyfu'n gynnar.
Peidiwch ag anghofio mai'r wythnos hon y bydd cannoedd o wyddonwyr ac arweinyddion y byd yn cyfarfod yn Nenmarc i geisio dod i gytundeb i achub y blaned. Un o'r cyfarfodydd pwysicaf yn y byd o bosib. Ewch i newsround am y newyddion diweddaraf a gadewch i mi wybod beth yw'ch barn.
Yr wythnos nesaf fydd yr wythnos olaf i'w chofnodi cyn y Nadolig wedyn gallwch fwynhau eich gwyliau.
Mwynhewch y Nadolig!
Athro'r Ardd